Add parallel Print Page Options

14 Yna yr holl gynulleidfa a ddyrchafodd ei llef, ac a waeddodd; a’r bobl a wylasant y nos honno. A holl feibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron: a’r holl gynulleidfa a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw yn nhir yr Aifft! neu, O na buasem feirw yn y diffeithwch hwn! A phaham y mae yr Arglwydd yn ein dwyn ni i’r tir hwn, i gwympo ar y cleddyf? ein gwragedd a’n plant fyddant yn ysbail. Onid gwell i ni ddychwelyd i’r Aifft? A dywedasant bawb wrth ei gilydd, Gosodwn ben arnom, a dychwelwn i’r Aifft. Yna y syrthiodd Moses ac Aaron ar eu hwynebau gerbron holl gynulleidfa tyrfa meibion Israel.

Josua hefyd mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, dau o ysbiwyr y tir, a rwygasant eu dillad; Ac a ddywedasant wrth holl dorf meibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, sydd dir da odiaeth. Os yr Arglwydd sydd fodlon i ni, efe a’n dwg ni i’r tir hwn, ac a’i rhydd i ni; sef y tir sydd yn llifeirio o laeth a mêl. Yn unig na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac nac ofnwch bobl y tir; canys bara i ni ydynt: ciliodd eu hamddiffyn oddi wrthynt, a’r Arglwydd sydd gyda ni: nac ofnwch hwynt. 10 A’r holl dorf a ddywedasant am eu llabyddio hwynt â meini. A gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd ym mhabell y cyfarfod i holl feibion Israel.

11 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pa hyd y digia’r bobl yma fi? a pha hyd y byddant heb gredu i mi, am yr holl arwyddion a wneuthum yn eu plith? 12 Trawaf hwynt â haint, a gwasgaraf hwy, a gwnaf di yn genhedlaeth fwy, a chryfach na hwynt‐hwy.

13 A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Felly yr Eifftiaid a glyw, (canys o’u mysg hwynt y dygaist y bobl yma i fyny yn dy nerth,) 14 Ac a ddywedant i breswylwyr y tir hwn, (canys clywsant dy fod di, Arglwydd, ymysg y bobl yma, a’th fod di, Arglwydd, yn ymddangos iddynt wyneb yn wyneb, a bod dy gwmwl di yn aros arnynt, a’th fod di yn myned o’u blaen hwynt mewn colofn o gwmwl y dydd, ac mewn colofn dân y nos;) 15 Os lleddi y bobl yma fel un gŵr; yna y dywed y cenhedloedd y rhai a glywsant sôn amdanat, gan ddywedyd, 16 O eisiau gallu o’r Arglwydd ddwyn y bobl yma i’r tir y tyngodd efe iddynt, am hynny y lladdodd efe hwynt yn y diffeithwch. 17 Yr awr hon, gan hynny, mawrhaer, atolwg, nerth yr Arglwydd, fel y lleferaist, gan ddywedyd, 18 Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig, ac aml o drugaredd, yn maddau anwiredd a chamwedd, a chan gyfiawnhau ni chyfiawnha efe yr euog; ymweled y mae ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth. 19 Maddau, atolwg, anwiredd y bobl yma, yn ôl dy fawr drugaredd, ac megis y maddeuaist i’r bobl hyn, o’r Aifft hyd yma. 20 A dywedodd yr Arglwydd, Maddeuais, yn ôl dy air: 21 Ond os byw fi, yr holl dir a lenwir o ogoniant yr Arglwydd. 22 Canys yr holl ddynion y rhai a welsant fy ngogoniant, a’m harwyddion a wneuthum yn yr Aifft, ac yn y diffeithwch ac a’m temtiasant y dengwaith hyn, ac ni wrandawsant ar fy llais, 23 Ni welant y tir y tyngais wrth eu tadau hwynt; sef y rhai oll a’m digiasant, nis gwelant ef: 24 Ond fy ngwas Caleb, am fod ysbryd arall gydag ef, ac iddo fy nghyflawn ddilyn, dygaf ef i’r tir y daeth iddo: a’i had a’i hetifedda ef. 25 (Ond y mae’r Amaleciaid a’r Canaaneaid yn trigo yn y dyffryn;) yfory trowch, ac ewch i’r diffeithwch, ar hyd ffordd y môr coch.

26 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd, 27 Pa hyd y cyd‐ddygaf â’r gynulleidfa ddrygionus hon sydd yn tuchan i’m herbyn? clywais duchan meibion Israel, y rhai sydd yn tuchan i’m herbyn. 28 Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, fel y llefarasoch yn fy nghlustiau, felly y gwnaf i chwi. 29 Yn y diffeithwch hwn y cwymp eich celaneddau: a’ch holl rifedigion trwy eich holl rif, o fab ugain mlwydd ac uchod, y rhai a duchanasoch yn fy erbyn, 30 Diau ni ddeuwch chwi i’r tir am yr hwn y codais fy llaw, am wneuthur i chwi breswylio ynddo, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun. 31 Ond eich plant chwi, y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail,hwynt‐hwy a ddygaf i’r wlad, a hwy a gânt adnabod y tir a ddirmygasoch chwi. 32 A’ch celaneddau chwi a gwympant yn y diffeithwch hwn. 33 A’ch plant chwi a fugeilia yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, ac a ddygant gosb eich puteindra chwi, nes darfod eich celaneddau chwi yn y diffeithwch. 34 Yn ôl rhifedi’r dyddiau y chwiliasoch y tir, sef deugain niwrnod, (pob diwrnod am flwyddyn,) y dygwch eich anwireddau, sef deugain mlynedd; a chewch wybod toriad fy ngair i. 35 Myfi yr Arglwydd a leferais, diau y gwnaf hyn i’r holl gynulleidfa ddrygionus yma, sydd wedi ymgynnull i’m herbyn i: yn y diffeithwch hwn y darfyddant, ac yno y byddant feirw. 36 A’r dynion a anfonodd Moses i chwilio’r tir, y rhai a ddychwelasant, ac a wnaethant i’r holl dorf duchan yn ei erbyn ef, gan roddi allan anair am y tir; 37 Y dynion, meddaf, y rhai a roddasant allan anair drwg i’r tir, a fuant feirw o’r pla, gerbron yr Arglwydd. 38 Ond Josua mab Nun, a Chaleb mab Jeffunne, a fuant fyw o’r gwŷr hyn a aethant i chwilio y tir. 39 A Moses a lefarodd y geiriau hyn wrth holl feibion Israel: a’r bobl a alarodd yn ddirfawr.

40 A chodasant yn fore i fyned i ben y mynydd, gan ddywedyd, Wele ni, a ni a awn i fyny i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd: canys ni a bechasom. 41 A dywedodd Moses, Paham yr ydych fel hyn yn troseddu gair yr Arglwydd? a hyn ni lwydda. 42 Nac ewch i fyny; canys nid yw yr Arglwydd yn eich plith: rhag eich taro o flaen eich gelynion. 43 Canys yr Amaleciaid a’r Canaaneaid ydynt yno o’ch blaen chwi, a chwi a syrthiwch ar y cleddyf: canys am i chwi ddychwelyd oddi ar ôl yr Arglwydd, ni bydd yr Arglwydd gyda chwi. 44 Eto rhyfygasant fyned i ben y mynydd: ond arch cyfamod yr Arglwydd, a Moses, ni symudasant o ganol y gwersyll. 45 Yna y disgynnodd yr Amaleciaid a’r Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y mynydd hwnnw, ac a’u trawsant, ac a’u difethasant hyd Horma.