
Nehemeia 11 Beibl William Morgan (BWM)11 A thywysogion y bobl a drigasant yn Jerwsalem: a’r rhan arall o’r bobl a fwriasant goelbrennau i ddwyn un o’r deg i drigo yn Jerwsalem y ddinas sanctaidd, a naw rhan i fod yn y dinasoedd eraill. 2 A’r bobl a fendithiasant yr holl wŷr a ymroddasent yn ewyllysgar i breswylio yn Jerwsalem. 3 A dyma benaethiaid y dalaith, y rhai a drigasant yn Jerwsalem: ond yn ninasoedd Jwda pawb a drigasant yn eu meddiant o fewn eu dinasoedd, sef Israel, yr offeiriaid, a’r Lefiaid, a’r Nethiniaid, a meibion gweision Solomon. 4 A rhai o feibion Jwda ac o feibion Benjamin a drigasant yn Jerwsalem. O feibion Jwda; Athaia mab Usseia, fab Sechareia, fab Amareia, fab Seffatia, fab Mahalaleel, o feibion Peres; 5 Maaseia hefyd mab Baruch, fab Col‐hose, fab Hasaia, fab Adaia, fab Joiarib, fab Sechareia, fab Siloni. 6 Holl feibion Peres y rhai oedd yn trigo yn Jerwsalem, oedd bedwar cant ac wyth a thrigain o wŷr grymus. 7 A dyma feibion Benjamin; Salu mab Mesulam, fab Joed, fab Pedaia, fab Colaia, fab Maaseia, fab Ithiel, fab Jesaia. 8 Ac ar ei ôl ef Gabai, Salai; naw cant ac wyth ar hugain. 9 A Joel mab Sichri oedd swyddog arnynt hwy: a Jwda mab Senua yn ail ar y ddinas. 10 O’r offeiriaid: Jedaia mab Joiarib, Jachin. 11 Seraia mab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, blaenor tŷ Dduw. 12 A’u brodyr y rhai oedd yn gweithio gwaith y tŷ, oedd wyth cant a dau ar hugain: ac Adaia mab Jeroham, fab Pelalia, fab Amsi, fab Sechareia, fab Pasur, fab Malcheia, 13 A’i frodyr, pennau‐cenedl, dau cant a dau a deugain: ac Amasai mab Asareel, fab Ahasai, fab Mesilemoth, fab Immer, 14 A’u brodyr hwynt, yn gedyrn o nerth, oedd gant ac wyth ar hugain: a Sabdiel mab Haggedolim yn swyddog arnynt. 15 Ac o’r Lefiaid: Semaia mab Hasub, fab Asricam, fab Hasabeia fab Bunni. 16 Sabbethai hefyd, a Josabad, o benaethiaid y Lefiaid, oedd oruchaf ar y gwaith o’r tu allan i dŷ Dduw. 17 Mataneia hefyd mab Micha, fab Sabdi, fab Asaff, oedd bennaf i ddechrau tâl diolch mewn gweddi: a Bacbuceia yn ail o’i frodyr; ac Abda mab Sammua, fab Galal, fab Jedwthwn. 18 Yr holl Lefiaid yn y ddinas sanctaidd, oedd ddau cant a phedwar a phedwar ugain. 19 A’r porthorion, Accub, Talmon, a’u brodyr yn cadw y pyrth, oedd gant a deuddeg a thrigain. 20 A’r rhan arall o Israel, o’r offeiriaid ac o’r Lefiaid a drigent yn holl ddinasoedd Jwda, pob un yn ei etifeddiaeth. 21 Ond y Nethiniaid oeddynt yn aros yn y tŵr: Siha a Gispa oedd ar y Nethiniaid. 22 A swyddog y Lefiaid yn Jerwsalem, oedd Ussi mab Bani, fab Hasabeia, fab Mataneia, fab Micha: o feibion Asaff, y cantorion oedd ar waith tŷ Dduw. 23 Canys gorchymyn y brenin amdanynt hwy oedd, fod ordinhad safadwy i’r cantorion, dogn dydd yn ei ddydd. 24 A Phethaheia mab Mesesabeel, o feibion Sera mab Jwda, oedd wrth law y brenin ym mhob peth a berthynai i’r bobl. 25 Ac am y trefydd a’u meysydd, rhai o feibion Jwda a drigasant yng Nghaer‐Arba a’i phentrefi, ac yn Dibon a’i phentrefi, ac yn Jecabseel a’i phentrefi, 26 Ac yn Jesua, ac ym Molada, ac yn Beth‐phelet, 27 Ac yn Hasar‐sual, ac yn Beerseba a’i phentrefi, 28 Ac yn Siclag, ac ym Mechona ac yn ei phentrefi, 29 Ac yn En‐rimmon, ac yn Sarea, ac yn Jarmuth, 30 Sanoa, Adulam, a’u trefydd, Lachis a’i meysydd, yn Aseca a’i phentrefi. A hwy a wladychasant o Beerseba hyd ddyffryn Hinnom. 31 A meibion Benjamin o Geba a drigasant ym Michmas, ac Aia, a Bethel, a’u pentrefi, 32 Yn Anathoth, Nob, Ananeia, 33 Hasor, Rama, Gittaim, 34 Hadid, Seboim, Nebalat, 35 Lod, ac Ono, glyn y crefftwyr. 36 Ac o’r Lefiaid yr oedd rhannau yn Jwda, ac yn Benjamin.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
Now that you've created a Bible Gateway account, upgrade to Bible Gateway Plus: the ultimate online Bible reading & study experience! Bible Gateway Plus equips you to answer the toughest questions about faith, God, and the Bible with access to a vast digital Bible study library. And it's all integrated seamlessly into your Bible Gateway experience. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.