Add parallel Print Page Options

Gwae ddinas y gwaed! llawn celwydd ac ysbail ydyw i gyd, a’r ysglyfaeth heb ymado. Bydd sŵn y ffrewyll, a sŵn cynnwrf olwynion, a’r march yn prancio, a’r cerbyd yn neidio. Y marchog sydd yn codi ei gleddyf gloyw, a’i ddisglair waywffon; lliaws o laddedigion, ac aneirif o gelanedd; a heb ddiwedd ar y cyrff: tripiant wrth eu cyrff hwynt: Oherwydd aml buteindra y butain deg, meistres swynion, yr hon a werth genhedloedd trwy ei phuteindra, a theuluoedd trwy ei swynion. Wele fi i’th erbyn, medd Arglwydd y lluoedd, a datguddiaf dy odre ar dy wyneb, a gwnaf i genhedloedd weled dy noethni, ac i deyrnasoedd dy warth. A thaflaf ffiaidd bethau arnat, a gwnaf di yn wael, a gosodaf di yn ddrych. A bydd i bawb a’th welo ffoi oddi wrthyt, a dywedyd, Anrheithiwyd Ninefe, pwy a gwyna iddi? O ba le y ceisiaf ddiddanwyr i ti? Ai gwell ydwyt na No dylwythog, yr hon a osodir rhwng yr afonydd, ac a amgylchir â dyfroedd, i’r hon y mae y môr yn rhagfur, a’i mur o’r môr? Ethiopia oedd ei chadernid, a’r Aifft, ac aneirif: Put a Lubim oedd yn gynhorthwy i ti. 10 Er hynny hi a dducpwyd ymaith, hi a gaethgludwyd; a’i phlant bychain a ddrylliwyd ym mhen pob heol; ac am ei phendefigion y bwriasant goelbrennau, a’i holl wŷr mawr a rwymwyd mewn gefynnau. 11 Tithau hefyd a feddwi; byddi guddiedig; ceisi hefyd gadernid rhag y gelyn. 12 Dy holl amddiffynfeydd fyddant fel ffigyswydd a’u blaenffrwyth arnynt: os ysgydwir hwynt, syrthiant yn safn y bwytawr. 13 Wele dy bobl yn wragedd yn dy ganol di: pyrth dy dir a agorir i’th elynion; tân a ysodd dy farrau. 14 Tyn i ti ddwfr i’r gwarchae, cadarnha dy amddiffynfeydd; dos i’r dom, sathr y clai, cryfha yr odyn briddfaen. 15 Yno y tân a’th ddifa, y cleddyf a’th dyr ymaith, efe a’th ysa di fel pryf y rhwd; ymluosoga fel pryf y rhwd, ymluosoga fel y ceiliog rhedyn. 16 Amlheaist dy farchnadwyr rhagor sêr y nefoedd: difwynodd pryf y rhwd, ac ehedodd ymaith. 17 Dy rai coronog sydd fel y locustiaid, a’th dywysogion fel y ceiliogod rhedyn mawr, y rhai a wersyllant yn y caeau ar y dydd oerfelog, ond pan gyfodo yr haul, hwy a ehedant ymaith, ac ni adwaenir eu man lle y maent. 18 Dy fugeiliaid, brenin Asyria, a hepiant; a’th bendefigion a orweddant; gwasgerir dy bobl ar y mynyddoedd, ac ni bydd a’u casglo. 19 Ni thynnir dy archoll ynghyd, clwyfus yw dy weli; pawb a glywo sôn amdanat a gurant eu dwylo arnat; oherwydd pwy nid aeth dy ddrygioni drosto bob amser?