
Micha 4 Beibl William Morgan (BWM)4 A bydd yn niwedd y dyddiau, i fynydd tŷ yr Arglwydd fod wedi ei sicrhau ym mhen y mynyddoedd; ac efe a ddyrchefir goruwch y bryniau; a phobloedd a ddylifant ato. 2 A chenhedloedd lawer a ânt, ac a ddywedant, Deuwch, ac awn i fyny i fynydd yr Arglwydd, ac i dŷ Dduw Jacob; ac efe a ddysg i ni ei ffyrdd, ac yn ei lwybrau y rhodiwn: canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr Arglwydd o Jerwsalem. 3 Ac efe a farna rhwng pobloedd lawer, ac a gerydda genhedloedd cryfion hyd ymhell; a thorrant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach. 4 Ond eisteddant bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i’w dychrynu; canys genau Arglwydd y lluoedd a’i llefarodd. 5 Canys yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw ei hun, a ninnau a rodiwn yn enw yr Arglwydd ein Duw byth ac yn dragywydd. 6 Yn y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y casglaf y gloff, ac y cynullaf yr hon a yrrwyd allan, a’r hon a ddrygais: 7 A gwnaf y gloff yn weddill, a’r hon a daflwyd ymhell, yn genedl gref; a’r Arglwydd a deyrnasa arnynt ym mynydd Seion o hyn allan byth. 8 A thithau, tŵr y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth bennaf, y deyrnas i ferch Jerwsalem. 9 Paham gan hynny y gwaeddi waedd? onid oes ynot frenin? a ddarfu am dy gynghorydd? canys gwewyr a’th gymerodd megis gwraig yn esgor. 10 Ymofidia a griddfana, merch Seion, fel gwraig yn esgor: oherwydd yr awr hon yr ei di allan o’r ddinas, a thrigi yn y maes; ti a ei hyd Babilon: yno y’th waredir; yno yr achub yr Arglwydd di o law dy elynion. 11 Yr awr hon hefyd llawer o genhedloedd a ymgasglasant i’th erbyn, gan ddywedyd, Haloger hi, a gweled ein llygaid hynny ar Seion. 12 Ond ni wyddant hwy feddyliau yr Arglwydd, ac ni ddeallant ei gyngor ef: canys efe a’u casgl hwynt fel ysgubau i’r llawr dyrnu. 13 Cyfod, merch Seion, a dyrna; canys gwnaf dy gorn yn haearn, a’th garnau yn bres; a thi a ddrylli bobloedd lawer: a chysegraf i’r Arglwydd eu helw hwynt, a’u golud i Arglwydd yr holl ddaear.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
Now that you've created a Bible Gateway account, upgrade to Bible Gateway Plus: the ultimate online Bible reading & study experience! Bible Gateway Plus equips you to answer the toughest questions about faith, God, and the Bible with access to a vast digital Bible study library. And it's all integrated seamlessly into your Bible Gateway experience. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.