Add parallel Print Page Options

28 Ac yn niwedd y Saboth, a hi yn dyddhau i’r dydd cyntaf o’r wythnos, daeth Mair Magdalen, a’r Fair arall, i edrych y bedd. Ac wele, bu daeargryn mawr: canys disgynnodd angel yr Arglwydd o’r nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno. A’i wynepryd oedd fel mellten, a’i wisg yn wen fel eira. A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac a aethant megis yn feirw. A’r angel a atebodd ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio yr ydych yr Iesu, yr hwn a groeshoeliwyd. Nid yw efe yma: canys cyfododd, megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd. Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i’w ddisgyblion, gyfodi ohono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o’ch blaen chwi i Galilea: yno gwelwch ef. Wele, dywedais i chwi. Ac wedi eu myned ymaith ar frys oddi wrth y bedd, gydag ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i’w ddisgyblion ef.

Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i’w ddisgyblion ef, wele, yr Iesu a gyfarfu â hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy a ddaethant, ac a ymafaelasant yn ei draed ef, ac a’i haddolasant. 10 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Nac ofnwch: ewch, mynegwch i’m brodyr, fel yr elont i Galilea, ac yno y’m gwelant i.

11 Ac wedi eu myned hwy, wele, rhai o’r wyliadwriaeth a ddaethant i’r ddinas, ac a fynegasant i’r archoffeiriaid yr hyn oll a wnaethid. 12 Ac wedi iddynt ymgasglu ynghyd gyda’r henuriaid, a chydymgynghori, hwy a roesant arian lawer i’r milwyr, 13 Gan ddywedyd, Dywedwch, Ei ddisgyblion a ddaethant o hyd nos, ac a’i lladratasant ef, a nyni yn cysgu. 14 Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni a’i perswadiwn ef, ac a’ch gwnawn chwi yn ddiofal. 15 A hwy a gymerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addysgwyd hwynt: a thaenwyd y gair hwn ymhlith yr Iddewon hyd y dydd heddiw.

16 A’r un disgybl ar ddeg a aethant i Galilea, i’r mynydd lle yr ordeiniasai’r Iesu iddynt. 17 A phan welsant ef, hwy a’i haddolasant ef: ond rhai a ameuasant. 18 A’r Iesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. 19 Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân; 20 Gan ddysgu iddynt gadw pob peth a’r a orchmynnais i chwi. Ac wele, yr ydwyf fi gyda chwi bob amser hyd ddiwedd y byd. Amen.