Add parallel Print Page Options

10 Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i dueddau Jwdea, trwy’r tu hwnt i’r Iorddonen; a’r bobloedd a gydgyrchasant ato ef drachefn: ac fel yr oedd yn arferu, efe a’u dysgodd hwynt drachefn.

A’r Phariseaid, wedi dyfod ato, a ofynasant iddo, Ai rhydd i ŵr roi ymaith ei wraig? gan ei demtio ef. Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchmynnodd Moses i chwi? A hwy a ddywedasant, Moses a ganiataodd ysgrifennu llythyr ysgar, a’i gollwng hi ymaith. A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, O achos eich calon‐galedwch chwi yr ysgrifennodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw: Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt. Am hyn y gad dyn ei dad a’i fam, ac y glŷn wrth ei wraig; A hwy ill dau a fyddant un cnawd: fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd. Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, na wahaned dyn. 10 Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un peth. 11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a roddo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi. 12 Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gŵr, a phriodi un arall, y mae hi’n godinebu.

13 A hwy a ddygasant blant bychain ato, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a’r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt. 14 A’r Iesu pan welodd hynny, fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo’r cyfryw rai yw teyrnas Dduw. 15 Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi. 16 Ac efe a’u cymerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylo arnynt, ac a’u bendithiodd.

17 Ac wedi iddo fyned allan i’r ffordd, rhedodd un ato, a gostyngodd iddo, ac a ofynnodd iddo, O Athro da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol? 18 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid oes neb da ond un, sef Duw. 19 Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Na chamgolleda, Anrhydedda dy dad a’th fam. 20 Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, y rhai hyn i gyd a gedwais o’m hieuenctid. 21 A’r Iesu gan edrych arno, a’i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i’r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, a chymer i fyny y groes, a dilyn fi. 22 Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymaith yn athrist: canys yr oedd ganddo feddiannau lawer.

23 A’r Iesu a edrychodd o’i amgylch, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Mor anodd yr â’r rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw! 24 A’r disgyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a atebodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anodd yw i’r rhai sydd â’u hymddiried yn eu golud fyned i deyrnas Dduw! 25 Y mae yn haws i gamel fyned trwy grau’r nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw. 26 A hwy a synasant yn ddirfawr, gan ddywedyd wrthynt eu hunain, A phwy a all fod yn gadwedig? 27 A’r Iesu, wedi edrych arnynt, a ddywedodd, Gyda dynion amhosibl yw, ac nid gyda Duw: canys pob peth sydd bosibl gyda Duw.

28 Yna y dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a’th ddilynasom di. 29 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a’r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o’m hachos i a’r efengyl, 30 A’r ni dderbyn y can cymaint yr awron y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, ynghyd ag erlidiau; ac yn y byd a ddaw, fywyd tragwyddol. 31 Ond llawer rhai cyntaf a fyddant ddiwethaf; a’r diwethaf fyddant gyntaf.

32 Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Jerwsalem; ac yr oedd yr Iesu yn myned o’u blaen hwynt: a hwy a frawychasant; ac fel yr oeddynt yn canlyn, yr oedd arnynt ofn. Ac wedi iddo drachefn gymryd y deuddeg, efe a ddechreuodd fynegi iddynt y pethau a ddigwyddent iddo ef: 33 Canys wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i’r archoffeiriaid, ac i’r ysgrifenyddion; a hwy a’i condemniant ef i farwolaeth, ac a’i traddodant ef i’r Cenhedloedd: 34 A hwy a’i gwatwarant ef, ac a’i fflangellant, ac a boerant arno, ac a’i lladdant: a’r trydydd dydd yr atgyfyd.

35 A daeth ato Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, gan ddywedyd, Athro, ni a fynnem wneuthur ohonot i ni yr hyn a ddymunem. 36 Yntau a ddywedodd wrthynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi? 37 Hwythau a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, a’r llall ar dy aswy, yn dy ogoniant. 38 Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn: a ellwch chwi yfed o’r cwpan yr wyf fi yn ei yfed? a’ch bedyddio â’r bedydd y’m bedyddir i ag ef? 39 A hwy a ddywedasant wrtho, Gallwn. A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o’r cwpan yr yfwyf fi; ac y’ch bedyddir â’r bedydd y bedyddir finnau: 40 Ond eistedd ar fy neheulaw a’m haswy, nid eiddof fi ei roddi; ond i’r rhai y darparwyd. 41 A phan glybu’r deg, hwy a ddechreuasant fod yn anfodlon ynghylch Iago ac Ioan. 42 A’r Iesu a’u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch fod y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra‐arglwyddiaethu arnynt; a’u gwŷr mawr hwynt yn tra‐awdurdodi arnynt. 43 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith, bydded weinidog i chwi; 44 A phwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf, bydded was i bawb. 45 Canys ni ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.

46 A hwy a ddaethant i Jericho. Ac fel yr oedd efe yn myned allan o Jericho, efe a’i ddisgyblion, a bagad o bobl, Bartimeus ddall, mab Timeus, oedd yn eistedd ar fin y ffordd, yn cardota. 47 A phan glybu mai’r Iesu o Nasareth ydoedd, efe a ddechreuodd lefain, a dywedyd, Iesu, mab Dafydd, trugarha wrthyf. 48 A llawer a’i ceryddasant ef, i geisio ganddo dewi: ond efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf. 49 A’r Iesu a safodd, ac a archodd ei alw ef. A hwy a alwasant y dall, gan ddywedyd wrtho, Cymer galon; cyfod: y mae efe yn dy alw di. 50 Ond efe, wedi taflu ei gochl ymaith, a gyfododd, ac a ddaeth at yr Iesu. 51 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fynni i mi ei wneuthur i ti? A’r dall a ddywedodd wrtho, Athro, caffael ohonof fy ngolwg. 52 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: dy ffydd a’th iachaodd. Ac yn y man y cafodd efe ei olwg, ac efe a ddilynodd yr Iesu ar hyd y ffordd.