Add parallel Print Page Options

Bu hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Augustus Cesar, i drethu’r holl fyd. (Y trethiad yma a wnaethpwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria.) A phawb a aethant i’w trethu, bob un i’w ddinas ei hun. A Joseff hefyd a aeth i fyny o Galilea, o ddinas Nasareth, i Jwdea, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem (am ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd), I’w drethu gyda Mair, yr hon a ddyweddiasid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog. A bu, tra oeddynt hwy yno, cyflawnwyd y dyddiau i esgor ohoni. A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf‐anedig, ac a’i rhwymodd ef mewn cadachau, ac a’i dododd ef yn y preseb; am nad oedd iddynt le yn y llety.

Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid yn aros yn y maes, ac yn gwylied eu praidd liw nos. Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch: ac ofni yn ddirfawr a wnaethant. 10 A’r angel a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch: canys wele, yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i’r holl bobl: 11 Canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad yn ninas Dafydd, yr hwn yw Crist yr Arglwydd. 12 A hyn fydd arwydd i chwi; Chwi a gewch y dyn bach wedi ei rwymo mewn cadachau, a’i ddodi yn y preseb. 13 Ac yn ddisymwth yr oedd gyda’r angel liaws o lu nefol, yn moliannu Duw, ac yn dywedyd, 14 Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd, i ddynion ewyllys da. 15 A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i’r nef, y bugeiliaid hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Awn hyd Fethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni. 16 A hwy a ddaethant ar frys; ac a gawsant Mair a Joseff, a’r dyn bach yn gorwedd yn y preseb. 17 A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn. 18 A phawb a’r a’i clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeiliaid wrthynt. 19 Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon. 20 A’r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a moliannu Duw am yr holl bethau a glywsent ac a welsent, fel y dywedasid wrthynt.

Read full chapter