Add parallel Print Page Options

21 Ac wedi iddo edrych i fyny, efe a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i’r drysorfa. Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling. Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na hwynt oll: Canys y rhai hyn oll o’r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymau Duw: eithr hon o’i phrinder a fwriodd i mewn yr holl fywyd a oedd ganddi.

Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y deml, ei bod hi wedi ei harddu â meini teg a rhoddion, efe a ddywedodd, Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw’r dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen, a’r nis datodir. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athro, pa bryd gan hynny y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn ar ddyfod? Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; a’r amser a nesaodd: nac ewch gan hynny ar eu hôl hwynt. A phan glywoch sôn am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymerwch fraw: canys rhaid i’r pethau hyn fod yn gyntaf: ond ni ddaw y diwedd yn y man. 10 Yna y dywedodd efe wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: 11 A daeargrynfâu mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau; a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrion a fydd o’r nef. 12 Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylo arnoch, ac a’ch erlidiant, gan eich traddodi i’r synagogau, ac i garcharau, wedi eich dwyn gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i. 13 Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth. 14 Am hynny rhoddwch eich bryd ar na ragfyfyrioch beth a ateboch: 15 Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na’i gwrthsefyll. 16 A chwi a fradychir, ie, gan rieni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac i rai ohonoch y parant farwolaeth. 17 A chas fyddwch gan bawb oherwydd fy enw i. 18 Ond ni chyll blewyn o’ch pen chwi. 19 Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau. 20 A phan weloch Jerwsalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fod ei hanghyfanhedd‐dra hi wedi nesáu. 21 Yna y rhai fyddant yn Jwdea, ffoant i’r mynyddoedd; a’r rhai a fyddant yn ei chanol hi, ymadawant; a’r rhai a fyddant yn y meysydd, nac elont i mewn iddi. 22 Canys dyddiau dial yw’r rhai hyn, i gyflawni’r holl bethau a ysgrifennwyd. 23 Eithr gwae’r rhai beichiogion, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn. 24 A hwy a syrthiant trwy fin y cleddyf, a chaethgludir hwynt at bob cenhedlaeth: a Jerwsalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd, hyd oni chyflawner amser y Cenhedloedd.

25 A bydd arwyddion yn yr haul, a’r lleuad, a’r sêr; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng gyngor; a’r môr a’r tonnau yn rhuo; 26 A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear: oblegid nerthoedd y nefoedd a ysgydwir. 27 Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmwl, gyda gallu a gogoniant mawr. 28 A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fyny, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared yn nesáu. 29 Ac efe a ddywedodd ddameg iddynt; Edrychwch ar y ffigysbren, a’r holl brennau; 30 Pan ddeiliant hwy weithian, chwi a welwch ac a wyddoch ohonoch eich hun, fod yr haf yn agos. 31 Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos. 32 Yn wir meddaf i chwi, Nid â’r oes hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben. 33 Y nef a’r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

34 Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i’ch calonnau un amser drymhau trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymwth; 35 Canys efe a ddaw, fel magl, ar warthaf pawb oll a’r sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaear. 36 Gwyliwch gan hynny a gweddïwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll gerbron Mab y dyn. 37 A’r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a’r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewydd. 38 A’r holl bobl a foregyrchent ato ef yn y deml, i’w glywed ef.