Luc 22
Beibl William Morgan
22 A nesaodd gŵyl y bara croyw, yr hon a elwir y pasg. 2 A’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.
3 A Satan a seth i mewn i Jwdas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi’r deuddeg. 4 Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd â’r archoffeiriaid a’r blaenoriaid, pa fodd y bradychai efe ef iddynt. 5 Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gytunasant ar roddi arian iddo. 6 Ac efe a addawodd, ac a geisiodd amser cyfaddas i’w fradychu ef iddynt yn absen y bobl.
7 A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y pasg. 8 Ac efe a anfonodd Pedr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, paratowch i ni’r pasg, fel y bwytaom. 9 A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni baratoi ohonom? 10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i’r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i’r tŷ lle yr êl efe i mewn. 11 A dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae’r Athro yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae’r llety, lle y gallwyf fwyta’r pasg gyda’m disgyblion? 12 Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr, wedi ei thaenu: yno paratowch. 13 A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt; ac a baratoesant y pasg. 14 A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a’r deuddeg apostol gydag ef. 15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a chwenychais yn fawr fwyta’r pasg hwn gyda chwi cyn dioddef ohonof. 16 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytâf fi mwyach ohono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw. 17 Ac wedi iddo gymryd y cwpan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymerwch hwn, a rhennwch yn eich plith: 18 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw.
19 Ac wedi iddo gymryd bara, a rhoi diolch, efe a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf. 20 Yr un modd y cwpan hefyd wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch.
21 Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd. 22 Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae’r dyn hwnnw, trwy’r hwn y bradychir ef! 23 Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy ohonynt oedd yr hwn a wnâi hynny.
24 A bu ymryson yn eu plith, pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwyaf. 25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a’r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion. 26 Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a’r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini. 27 Canys pa un fwyaf, ai’r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai’r hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu. 28 A chwychwi yw’r rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau. 29 Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau; 30 Fel y bwytaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
31 A’r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a’ch ceisiodd chwi, i’ch nithio fel gwenith: 32 Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y’th droer, cadarnha dy frodyr. 33 Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar, ac i angau. 34 Yntau a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Pedr, Na chân y ceiliog heddiw, nes i ti wadu dair gwaith yr adwaeni fi. 35 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan y’ch anfonais heb na phwrs, na chod, nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim? A hwy a ddywedasant, Naddo ddim. 36 Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs, cymered; a’r un modd god: a’r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf. 37 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid eto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifennwyd; sef, A chyda’r anwir y cyfrifwyd ef; canys y mae diben i’r pethau amdanaf fi. 38 A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.
39 Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd; a’i ddisgyblion hefyd a’i canlynasant ef. 40 A phan ddaeth efe i’r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth. 41 Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tuag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd, 42 Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. 43 Ac angel o’r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef. 44 Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach: a’i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear. 45 A phan gododd efe o’i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a’u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch; 46 Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.
47 Ac efe eto yn llefaru, wele dyrfa; a’r hwn a elwir Jwdas, un o’r deuddeg, oedd yn myned o’u blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu, i’w gusanu ef. 48 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Jwdas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn? 49 A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a drawn ni â chleddyf?
50 A rhyw un ohonynt a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef. 51 A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn. Ac efe a gyffyrddodd â’i glust, ac a’i hiachaodd ef. 52 A’r Iesu a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid, a blaenoriaid y deml, a’r henuriaid, y rhai a ddaethent ato, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau ac â ffyn? 53 Pan oeddwn beunydd gyda chwi yn y deml, nid estynasoch ddwylo i’m herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu’r tywyllwch.
54 A hwy a’i daliasant ef, ac a’i harweiniasant, ac a’i dygasant i mewn i dŷ’r archoffeiriad. A Phedr a ganlynodd o hirbell. 55 Ac wedi iddynt gynnau tân yng nghanol y neuadd, a chydeistedd ohonynt, eisteddodd Pedr yntau yn eu plith hwynt. 56 A phan ganfu rhyw lances ef yn eistedd wrth y tân, a dal sylw arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gydag ef. 57 Yntau a’i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef. 58 Ac ychydig wedi, un arall a’i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt tithau hefyd yn un ohonynt. A Phedr a ddywedodd, O ddyn, nid ydwyf. 59 Ac ar ôl megis ysbaid un awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gydag ef: canys Galilead yw. 60 A Phedr a ddywedodd, Y dyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, canodd y ceiliog. 61 A’r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr. A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith. 62 A Phedr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost.
63 A’r gwŷr oedd yn dal yr Iesu, a’i gwatwarasant ef, gan ei daro. 64 Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, hwy a’i trawsant ef ar ei wyneb, ac a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Proffwyda, pwy yw’r hwn a’th drawodd di? 65 A llawer o bethau eraill, gan gablu, a ddywedasant yn ei erbyn ef.
66 A phan aeth hi yn ddydd, ymgynullodd henuriaid y bobl, a’r archoffeiriaid, a’r ysgrifenyddion, ac a’i dygasant ef i’w cyngor hwynt, 67 Gan ddywedyd, Ai ti yw Crist? dywed i ni. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim: 68 Ac os gofynnaf hefyd i chwi, ni’m hatebwch, ac ni’m gollyngwch ymaith. 69 Ar ôl hyn y bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw. 70 A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hynny ydwyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn dywedyd fy mod. 71 Hwythau a ddywedasant, Pa raid i ni mwyach wrth dystiolaeth? canys clywsom ein hunain o’i enau ef ei hun.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.