Add parallel Print Page Options

13 Ac yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnnw rai yn mynegi iddo am y Galileaid, y rhai, y cymysgasai Peilat eu gwaed ynghyd â’u haberthau. A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrthynt, Ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid mwy na’r holl Galileaid, am iddynt ddioddef y cyfryw bethau? Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd. Neu’r deunaw hynny ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Siloam, ac a’u lladdodd hwynt: a ydych chwi yn tybied eu bod hwy yn bechaduriaid mwy na’r holl ddynion oedd yn cyfanheddu yn Jerwsalem? Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr, onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd.

Ac efe a ddywedodd y ddameg hon: Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan; ac efe a ddaeth i geisio ffrwyth arno, ac nis cafodd. Yna efe a ddywedodd wrth y gwinllannydd, Wele, tair blynedd yr ydwyf yn dyfod, gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn; ac nid ydwyf yn cael dim: tor ef i lawr; paham y mae efe yn diffrwytho’r tir? Ond efe gan ateb a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni ddarffo i mi gloddio o’i amgylch, a bwrw tail: Ac os dwg efe ffrwyth, da: onid e, gwedi hynny tor ef i lawr. 10 Ac yr oedd efe yn dysgu yn un o’r synagogau ar y Saboth.

11 Ac wele, yr oedd gwraig ac ynddi ysbryd gwendid ddeunaw mlynedd, ac oedd wedi cydgrymu, ac ni allai hi mewn modd yn y byd ymunioni. 12 Pan welodd yr Iesu hon, efe a’i galwodd hi ato, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, rhyddhawyd di oddi wrth dy wendid. 13 Ac efe a roddes ei ddwylo arni: ac yn ebrwydd hi a unionwyd, ac a ogoneddodd Dduw. 14 A’r archsynagogydd a atebodd yn ddicllon, am i’r Iesu iacháu ar y Saboth, ac a ddywedodd wrth y bobl, Chwe diwrnod sydd, yn y rhai y dylid gweithio: ar y rhai hyn gan hynny deuwch, a iachaer chwi: ac nid ar y dydd Saboth. 15 Am hynny yr Arglwydd a’i hatebodd ef, ac a ddywedodd, O ragrithiwr, oni ollwng pob un ohonoch ar y Saboth ei ych neu ei asyn o’r preseb, a’i arwain i’r dwfr? 16 Ac oni ddylai hon, a hi yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd, gael ei rhyddhau o’r rhwym hwn ar y dydd Saboth? 17 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr ef a gywilyddiasant: a’r holl bobl a lawenychasant am yr holl bethau gogoneddus a wneid ganddo.

18 Ac efe a ddywedodd, I ba beth y mae teyrnas Dduw yn debyg? ac i ba beth y cyffelybaf hi? 19 Tebyg yw i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymerodd dyn, ac a’i heuodd yn ei ardd; ac efe a gynyddodd, ac a aeth yn bren mawr, ac adar yr awyr a nythasant yn ei ganghennau ef. 20 A thrachefn y dywedodd, I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw? 21 Cyffelyb yw i surdoes, yr hwn a gymerodd gwraig, ac a’i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni surodd y cwbl oll. 22 Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd a threfi, gan athrawiaethu, ac ymdeithio tua Jerwsalem.

23 A dywedodd un wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai cadwedig? Ac efe a ddywedodd wrthynt, 24 Ymdrechwch am fyned i mewn trwy’r porth cyfyng: canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac nis gallant. 25 Gwedi cyfodi gŵr y tŷ, a chau’r drws, a dechrau ohonoch sefyll oddi allan, a churo’r drws, gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni; ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, Nid adwaen ddim ohonoch o ba le yr ydych: 26 Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwytasom ac a yfasom yn dy ŵydd di, a thi a ddysgaist yn ein heolydd ni. 27 Ac efe a ddywed, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Nid adwaen chwi o ba le yr ydych: ewch ymaith oddi wrthyf, chwi holl weithredwyr anwiredd. 28 Yno y bydd wylofain a rhincian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a’r holl broffwydi, yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan. 29 A daw rhai o’r dwyrain, ac o’r gorllewin, ac o’r gogledd, ac o’r deau, ac a eisteddant yn nheyrnas Dduw. 30 Ac wele, olaf ydyw’r rhai a fyddant flaenaf, a blaenaf ydyw’r rhai a fyddant olaf.

31 Y dwthwn hwnnw y daeth ato ryw Phariseaid, gan ddywedyd wrtho, Dos allan, a cherdda oddi yma: canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di. 32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, a dywedwch i’r cadno hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn iacháu heddiw ac yfory, a’r trydydd dydd y’m perffeithir. 33 Er hynny rhaid i mi ymdaith heddiw ac yfory, a thrennydd: canys ni all fod y derfydd am broffwyd allan o Jerwsalem. 34 O Jerwsalem, Jerwsalem, yr hon wyt yn lladd y proffwydi, ac yn llabyddio’r rhai a anfonir atat: pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech! 35 Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd. Ac yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, Ni welwch fi, hyd oni ddêl yr amser pan ddywedoch, Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd.