Add parallel Print Page Options

22 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, am iddynt ymneilltuo oddi wrth bethau cysegredig meibion Israel, ac na halogant fy enw sanctaidd, yn y pethau y maent yn eu cysegru i mi: myfi yw yr Arglwydd. Dywed wrthynt, Pwy bynnag o’ch holl hiliogaeth, trwy eich cenedlaethau, a nesao at y pethau cysegredig a gysegro meibion Israel i’r Arglwydd, a’i aflendid arno; torrir ymaith yr enaid hwnnw oddi ger fy mron: myfi yw yr Arglwydd. Na fwytaed neb o hiliogaeth Aaron o’r pethau cysegredig, ac yntau yn wahanglwyfus, neu yn ddiferllyd, hyd oni lanhaer ef: na’r hwn a gyffyrddo â dim wedi ei halogi wrth y marw, na’r hwn yr êl oddi wrtho ddisgyniad had; Na’r un a gyffyrddo ag un ymlusgiad, trwy yr hwn y gallo fod yn aflan, neu â dyn y byddai aflan o’i blegid, pa aflendid bynnag fyddo arno: A’r dyn a gyffyrddo ag ef, a fydd aflan hyd yr hwyr; ac na fwytaed o’r pethau cysegredig, oddieithr iddo olchi ei gnawd mewn dwfr. A phan fachludo’r haul, glân fydd; ac wedi hynny bwytaed o’r pethau cysegredig: canys ei fwyd ef yw hwn. Ac na fwytaed o ddim wedi marw ei hun, neu wedi ei ysglyfaethu, i fod yn aflan o’i blegid: myfi yw yr Arglwydd. Ond cadwant fy neddf i, ac na ddygant bechod bob un arnynt eu hunain, i farw o’i blegid, pan halogant hi: myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd hwynt. 10 Ac na fwytaed un alltud o’r peth cysegredig: dieithrddyn yr offeiriad, a’r gwas cyflog, ni chaiff fwyta’r peth cysegredig. 11 Ond pan bryno’r offeiriad ddyn am ei arian, hwnnw a gaiff fwyta ohono, a’r hwn a aner yn ei dŷ ef: y rhai hyn a gânt fwyta o’i fara ef. 12 A merch yr offeiriad, pan fyddo hi eiddo gŵr dieithr, ni chaiff hi fwyta o offrwm y pethau cysegredig. 13 Ond merch yr offeiriad, os gweddw fydd hi, neu wedi ysgar, a heb blant iddi, ac wedi dychwelyd i dŷ ei thad, a gaiff fwyta o fara ei thad, megis yn ei hieuenctid; ac ni chaiff neb dieithr fwyta ohono.

14 A phan fwytao un beth cysegredig mewn anwybod; yna chwaneged ei bumed ran ato, a rhodded gyda’r peth cysegredig i’r offeiriad. 15 Ac na halogant gysegredig bethau meibion Israel, y rhai a offrymant i’r Arglwydd. 16 Ac na wnânt iddynt ddwyn cosb camwedd, pan fwytaont eu cysegredig bethau hwynt: oherwydd myfi yw yr Arglwydd eu sancteiddydd.

17 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 18 Llefara wrth Aaron, ac wrth ei feibion, ac wrth holl feibion Israel, a dywed wrthynt, Pwy bynnag o dŷ Israel, ac o ddieithr yn Israel, a offrymo ei offrwm yn ôl ei holl addunedau, ac yn ôl ei holl roddion gwirfodd, y rhai a offrymant i’r Arglwydd yn boethoffrwm; 19 Offrymwch wrth eich ewyllys eich hun, un gwryw perffaith‐gwbl, o’r eidionau, o’r defaid, neu o’r geifr. 20 Nac offrymwch ddim y byddo anaf arno; oherwydd ni bydd efe gymeradwy drosoch. 21 A phan offrymo gŵr aberth hedd i’r Arglwydd, gan neilltuo ei adduned, neu rodd ewyllysgar o’r eidionau, neu o’r praidd, bydded berffaith‐gwbl, fel y byddo gymeradwy: na fydded un anaf arno. 22 Y dall, neu’r ysig, neu’r anafus, neu’r dafadennog, neu’r crachlyd, neu’r clafrllyd, nac offrymwch hwy i’r Arglwydd, ac na roddwch aberth tanllyd ohonynt ar allor yr Arglwydd. 23 A’r eidion, neu yr oen a fyddo gormod neu ry fychain ei aelodau, gellwch ei offrymu yn offrwm gwirfodd; ond dros adduned ni bydd cymeradwy. 24 Nac offrymwch i’r Arglwydd ddim wedi llethu, neu ysigo, neu ddryllio, neu dorri; ac na wnewch yn eich tir y fath beth. 25 Ac nac offrymwch o law un dieithr fwyd eich Duw o’r holl bethau hyn: canys y mae eu llygredigaeth ynddynt; anaf sydd arnynt: ni byddant gymeradwy drosoch.

26 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 27 Pan aner eidion, neu ddafad, neu afr, bydded saith niwrnod dan ei fam; o’r wythfed dydd ac o hynny allan y bydd cymeradwy yn offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd. 28 Ac am fuwch neu ddafad, na leddwch hi a’i llwdn yn yr un dydd. 29 A phan aberthoch aberth diolch i’r Arglwydd, offrymwch wrth eich ewyllys eich hunain. 30 Y dydd hwnnw y bwyteir ef; na weddillwch ohono hyd y bore: myfi yw yr Arglwydd. 31 Cedweh chwithau fy ngorchmynion, a gwnewch hwynt: myfi yw yr Arglwydd. 32 Ac na halogwch fy enw sanctaidd, ond sancteiddier fi ymysg meibion Israel: myfi yw yr Arglwydd eich sancteiddydd, 33 Yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, i fod yn Dduw i chwi: myfi yw yr Arglwydd.