Add parallel Print Page Options

A Phan ddarfu i’r holl genedl fyned trwy’r Iorddonen, yr Arglwydd a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd, Cymerwch i chwi ddeuddengwr o’r bobl, un gŵr o bob llwyth; A gorchmynnwch iddynt, gan ddywedyd, Cymerwch i chwi oddi yma, o ganol yr Iorddonen, o’r fan y mae traed yr offeiriaid yn sefyll yn daclus, ddeuddeg o gerrig; a dygwch hwynt drosodd gyda chwi, a gosodwch hwynt yn y llety y lletyoch ynddo heno. Yna Josua a alwodd am y deuddengwr a baratoesai efe o feibion Israel, un gŵr o bob llwyth: A dywedodd Josua wrthynt, Ewch trosodd o flaen arch yr Arglwydd eich Duw, trwy ganol yr Iorddonen; a chodwch i chwi bob un ei garreg ar ei ysgwydd, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel: Fel y byddo hyn yn arwydd yn eich mysg chwi, pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn, gan ddywedyd, Beth y mae y cerrig hyn yn ei arwyddocau i chwi? Yna y dywedwch wrthynt, Dorri ymaith ddyfroedd yr Iorddonen o flaen arch cyfamod yr Arglwydd; pan oedd hi yn myned trwy ’r Iorddonen, dyfroedd yr Iorddonen a dorrwyd ymaith. Y mae’r cerrig hyn yn goffadwriaeth i feibion Israel byth. A meibion Israel a wnaethant felly fel y gorchmynasai Josua; ac a gymerasant ddeuddeg carreg o ganol yr Iorddonen, fel y llefarasai yr Arglwydd wrth Josua, yn ôl rhifedi llwythau meibion Israel, ac a’u dygasant drosodd gyda hwynt i’r llety ac a’u cyfleasant yno. A Josua a osododd i fyny ddeuddeg carreg yng nghanol yr Iorddonen, yn y lle yr oedd traed yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch y cyfamod, yn sefyll: ac y maent yno hyd y dydd hwn.

10 A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a safasant yng nghanol yr Iorddonen, nes gorffen pob peth a orchmynasai yr Arglwydd i Josua ei lefaru wrth y bobl, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Moses wrth Josua: a’r bobl a frysiasant, ac a aethant drosodd. 11 A phan ddarfu i’r holl bobl fyned drosodd, yna arch yr Arglwydd a aeth drosodd, a’r offeiriaid, yng ngŵydd y bobl. 12 Meibion Reuben hefyd, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasse, a aethant drosodd yn arfogion o flaen meibion Israel, fel y llefarasai Moses wrthynt: 13 Ynghylch deugain mil, yn arfogion i ryfel, a aethant drosodd o flaen yr Arglwydd i ryfel, i rosydd Jericho.

14 Y dwthwn hwnnw yr Arglwydd a fawrhaodd Josua yng ngolwg holl Israel; a hwy a’i hofnasant ef, fel yr ofnasant Moses, holl ddyddiau ei einioes. 15 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Josua, gan ddywedyd, 16 Gorchymyn i’r offeiriaid, sydd yn dwyn arch y dystiolaeth, ddyfod ohonynt i fyny allan o’r Iorddonen. 17 Am hynny Josua a orchmynnodd i’r offeiriaid, gan ddywedyd, Deuwch i fyny allan o’r Iorddonen. 18 A phan ddaeth yr offeiriaid, oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, i fyny o ganol yr Iorddonen, a sengi o wadnau traed yr offeiriaid ar y sychdir; yna dyfroedd yr Iorddonen a ddychwelasant i’w lle, ac a aethant, megis cynt, dros ei holl geulennydd.

19 A’r bobl a ddaethant i fyny o’r Iorddonen y degfed dydd o’r mis cyntaf; ac a wersyllasant yn Gilgal, yn eithaf tu dwyrain Jericho.

20 A’r deuddeg carreg hynny, y rhai a ddygasent o’r Iorddonen, a sefydlodd Josua yn Gilgal. 21 Ac efe a lefarodd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan ofynno eich meibion chwi yn ôl hyn i’w tadau, gan ddywedyd, Beth yw y cerrig hyn? 22 Yna yr hysbyswch i’ch meibion, gan ddywedyd, Israel a ddaeth trwy’r Iorddonen hon ar dir sych. 23 Canys yr Arglwydd eich Duw chwi a sychodd ddyfroedd yr Iorddonen o’ch blaen chwi, nes i chwi fyned drwodd; megis y gwnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r môr coch, yr hwn a sychodd efe o’n blaen ni, nes i ni fyned drwodd: 24 Fel yr adnabyddo holl bobloedd y ddaear law yr Arglwydd, mai nerthol yw; fel yr ofnoch yr Arglwydd eich Duw bob amser.