
Josua 16 Beibl William Morgan (BWM)16 A rhandir meibion Joseff oedd yn myned o’r Iorddonen wrth Jericho, i ddyfroedd Jericho o du y dwyrain, i’r anialwch sydd yn myned i fyny o Jericho i fynydd Bethel; 2 Ac yn myned o Bethel i Lus, ac yn myned rhagddo i derfyn Arci i Ataroth; 3 Ac yn disgyn tua’r gorllewin i ardal Jaffleti, hyd derfyn Beth‐horon isaf, ac hyd Geser: a’i gyrrau eithaf sydd hyd y môr. 4 Felly meibion Joseff, Manasse ac Effraim, a gymerasant eu hetifeddiaeth. 5 A therfyn meibion Effraim oedd yn ôl eu teuluoedd; a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt o du y dwyrain, oedd Ataroth‐adar, hyd Beth‐horon uchaf. 6 A’r terfyn sydd yn myned tua’r môr, i Michmethath o du y gogledd; a’r terfyn sydd yn amgylchu o du y dwyrain i Taanath‐Seilo, ac yn myned heibio iddo o du y dwyrain i Janoha: 7 Ac yn myned i waered o Janoha, i Ataroth, a Naarath; ac yn cyrhaeddyd i Jericho, ac yn myned allan i’r Iorddonen. 8 O Tappua y mae y terfyn yn myned tua’r gorllewin i afon Cana; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Effraim, yn ôl eu teuluoedd. 9 A dinasoedd neilltuedig meibion Effraim oedd ymysg etifeddiaeth meibion Manasse; yr holl ddinasoedd, a’u pentrefydd. 10 Ond ni oresgynasant hwy y Canaaneaid, y rhai oedd yn trigo yn Geser: am hynny y trigodd y Canaaneaid ymhlith yr Effraimiaid hyd y dydd hwn, ac y maent yn gwasanaethu dan dreth.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
For the best Bible Gateway experience, upgrade to Bible Gateway Plus. For less than the cost of a latte each month, you'll gain access to a vast digital Bible study library and reduced banner ads to minimize distractions from God's Word. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.