Add parallel Print Page Options

A Josua a gyfododd yn fore, a chychwynasant o Sittim, a daethant hyd yr Iorddonen, efe a holl feibion Israel: lletyasant yno, cyn iddynt fyned drosodd. Ac ymhen y tridiau, y llywiawdwyr a dramwyasant trwy ganol y llu; Ac a orchmynasant i’r bobl, gan ddywedyd, Pan weloch chwi arch cyfamod yr Arglwydd eich Duw, a’r offeiriaid y Lefiaid yn ei dwyn hi; yna cychwynnwch chwi o’ch lle, ac ewch ar ei hôl hi. Eto bydded ennyd rhyngoch chwi a hithau, ynghylch dwy fil o gufyddau wrth fesur: na nesewch ati, fel y gwypoch y ffordd y rhodioch ynddi: canys ni thramwyasoch y ffordd hon o’r blaen. A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ymsancteiddiwch: canys yfory y gwna’r Arglwydd ryfeddodau yn eich mysg chwi. Josua hefyd a lefarodd wrth yr offeiriaid, gan ddywedyd, Codwch arch y cyfamod, ac ewch drosodd o flaen y bobl. A hwy a godasant arch y cyfamod, ac a aethant o flaen y bobl.

A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhau di yng ngŵydd holl Israel: fel y gwypont, mai megis y bûm gyda Moses, y byddaf gyda thithau. Am hynny gorchymyn di i’r offeiriaid sydd yn dwyn arch y cyfamod, gan ddywedyd, Pan ddeloch hyd gwr dyfroedd yr Iorddonen, sefwch yn yr Iorddonen.

A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Nesewch yma, a gwrandewch eiriau yr Arglwydd eich Duw. 10 Josua hefyd a ddywedodd, Wrth hyn y cewch wybod fod y Duw byw yn eich mysg chwi; a chan yrru y gyr efe allan y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Hefiaid, a’r Pheresiaid, a’r Girgasiaid, yr Amoriaid hefyd, a’r Jebusiaid, o’ch blaen chwi. 11 Wele arch cyfamod Arglwydd yr holl ddaear yn myned o’ch blaen chwi i’r Iorddonen. 12 Gan hynny cymerwch yn awr ddeuddengwr o lwythau Israel, un gŵr o bob llwyth. 13 A phan orffwyso gwadnau traed yr offeiriaid, sydd yn dwyn arch Arglwydd IOR yr holl fyd, yn nyfroedd yr Iorddonen, yna dyfroedd yr Iorddonen a dorrir ymaith oddi wrth y dyfroedd sydd yn disgyn oddi uchod: hwy a safant yn bentwr.

14 A phan gychwynnodd y bobl o’u pebyll, i fyned dros yr Iorddonen, a’r offeiriaid oedd yn dwyn arch y cyfamod o flaen y bobl; 15 A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriaid, oedd yn dwyn yr arch, yng nghwr y dyfroedd, (a’r Iorddonen a lanwai dros ei glannau oll holl ddyddiau y cynhaeaf,) 16 Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr ymhell iawn oddi wrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan: a’r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i fôr y rhos, sef i’r môr heli, a ddarfuant ac a dorrwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho. 17 A’r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, a safasant ar dir sych, yng nghanol yr Iorddonen, yn daclus: a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i’r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen.

Crossing the Jordan

Early in the morning Joshua and all the Israelites set out from Shittim(A) and went to the Jordan,(B) where they camped before crossing over. After three days(C) the officers(D) went throughout the camp,(E) giving orders to the people: “When you see the ark of the covenant(F) of the Lord your God, and the Levitical(G) priests(H) carrying it, you are to move out from your positions and follow it. Then you will know which way to go, since you have never been this way before. But keep a distance of about two thousand cubits[a](I) between you and the ark; do not go near it.”

Joshua told the people, “Consecrate yourselves,(J) for tomorrow the Lord will do amazing things(K) among you.”

Joshua said to the priests, “Take up the ark of the covenant and pass on ahead of the people.” So they took it up and went ahead of them.

And the Lord said to Joshua, “Today I will begin to exalt you(L) in the eyes of all Israel, so they may know that I am with you as I was with Moses.(M) Tell the priests(N) who carry the ark of the covenant: ‘When you reach the edge of the Jordan’s waters, go and stand in the river.’”

Joshua said to the Israelites, “Come here and listen to the words of the Lord your God. 10 This is how you will know that the living God(O) is among you(P) and that he will certainly drive out before you the Canaanites, Hittites,(Q) Hivites, Perizzites,(R) Girgashites, Amorites and Jebusites.(S) 11 See, the ark of the covenant of the Lord of all the earth(T) will go into the Jordan ahead of you.(U) 12 Now then, choose twelve men(V) from the tribes of Israel, one from each tribe. 13 And as soon as the priests who carry the ark of the Lord—the Lord of all the earth(W)—set foot in the Jordan, its waters flowing downstream(X) will be cut off(Y) and stand up in a heap.(Z)

14 So when the people broke camp to cross the Jordan, the priests carrying the ark of the covenant(AA) went ahead(AB) of them. 15 Now the Jordan(AC) is at flood stage(AD) all during harvest.(AE) Yet as soon as the priests who carried the ark reached the Jordan and their feet touched the water’s edge, 16 the water from upstream stopped flowing.(AF) It piled up in a heap(AG) a great distance away, at a town called Adam in the vicinity of Zarethan,(AH) while the water flowing down(AI) to the Sea of the Arabah(AJ) (that is, the Dead Sea(AK)) was completely cut off.(AL) So the people crossed over opposite Jericho.(AM) 17 The priests(AN) who carried the ark of the covenant of the Lord stopped in the middle of the Jordan and stood on dry ground,(AO) while all Israel passed by until the whole nation had completed the crossing on dry ground.(AP)

Footnotes

  1. Joshua 3:4 That is, about 3,000 feet or about 900 meters