Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
One verse. Every morning. Get the free Verse of the Day email.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
Understand more as you read. Try Bible Gateway Plus.
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Josua 19  Beibl William Morgan

19 A’r ail goelbren a aeth allan i Simeon, dros lwyth meibion Simeon, yn ôl eu teuluoedd: a’u hetifeddiaeth hwynt oedd o fewn etifeddiaeth meibion Jwda. 2 Ac yr oedd ganddynt hwy, yn eu hetifeddiaeth, Beer‐seba, a Seba, a Molada, 3 A Hasar‐sual, a Bala, ac Asem, 4 Ac Eltolad, a Bethul, a Horma, 5 A Siclag, a Beth‐marcaboth, a Hasar‐susa, 6 A Beth‐lebaoth, a Saruhen; tair dinas ar ddeg, a’u pentrefydd: 7 Ain, Rimmon, ac Ether, ac Asan; pedair o ddinasoedd, a’u pentrefydd: 8 A’r holl bentrefydd y rhai oedd o amgylch y dinasoedd hyn, hyd Baalath‐beer, Ramath o’r deau. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Simeon, yn ôl eu teuluoedd. 9 O randir meibion Jwda yr oedd etifeddiaeth meibion Simeon: canys rhan meibion Jwda oedd ormod iddynt; am hynny meibion Simeon a gawsant eu hetifeddiaeth o fewn eu hetifeddiaeth hwynt.

10 A’r trydydd coelbren a ddaeth i fyny dros feibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd hyd Sarid. 11 A’u terfyn hwynt sydd yn myned i fyny tua’r môr, a Marala, ac yn cyrhaeddyd i Dabbaseth; ac yn cyrhaeddyd i’r afon sydd ar gyfer Jocneam; 12 Ac yn troi o Sarid, o du y dwyrain tua chyfodiad haul, hyd derfyn Cisloth‐Tabor; ac yn myned i Daberath, ac yn esgyn i Jaffia; 13 Ac yn myned oddi yno ymlaen tua’r dwyrain, i Gittah‐Heffer, i Ittah‐Casin; ac yn myned allan i Rimmon‐Methoar, i Nea. 14 A’r terfyn sydd yn amgylchu o du y gogledd i Hannathon; a’i ddiweddiad yng nglyn Jifftahel. 15 Cattath hefyd, a Nahalal, a Simron, ac Idala, a Bethlehem: deuddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. 16 Dyma etifeddiaeth meibion Sabulon, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd yma, a’u pentrefydd.

17 Y pedwerydd coelbren a ddaeth allan dros Issachar; dros feibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd. 18 A’u terfyn hwynt oedd tua Jesreel, a Chesuloth, a Sunem. 19 A Haffraim, a Sihon, ac Anaharath. 20 A Rabbith, a Cision, ac Abes, 21 A Remeth, ac En‐gannim, ac Enhada, a Beth‐passes. 22 A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd i Tabor, a Sahasima, a Beth‐semes; a’u cyrrau eithaf hwynt yw yr Iorddonen: un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd. 23 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Issachar, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd, a’u pentrefydd.

24 A’r pumed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd. 25 A’u terfyn hwynt oedd, Helcath, a Hali, a Beten, ac Achsaff, 26 Ac Alammelech, ac Amad, a Misal; ac yn cyrhaeddyd i Carmel tua’r gorllewin, ac i Sihor‐Libnath: 27 Ac yn troi tua chyfodiad haul i Beth‐dagon, ac yn cyrhaeddyd i Sabulon, ac i ddyffryn Jifftahel, tua’r gogledd i Beth‐Emec, ac i Neiel, ac yn myned ar y llaw aswy i Cabul; 28 A Hebron, a Rehob, a Hammon, a Cana, hyd Sidon fawr. 29 A’r terfyn sydd yn troi i Rama, ac hyd Sor, y ddinas gadarn: a’r terfyn sydd yn troi i Hosa; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr, o randir Achsib. 30 Umma hefyd, ac Affec, a Rehob: dwy ddinas ar hugain, a’u pentrefydd. 31 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Aser, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn a’u pentrefydd.

32 Y chweched coelbren a ddaeth allan i feibion Nafftali, dros feibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd. 33 A’u terfyn hwy oedd o Heleff, o Alon i Saanannim, ac Adami, Neceb, a Jabneel hyd Lacum: a’i gyrrau eithaf oedd wrth yr Iorddonen. 34 A’r terfyn sydd yn troi tua’r gorllewin i Asnoth‐Tabor, ac yn myned oddi yno i Huccoc; ac yn cyrhaeddyd i Sabulon o du y deau, ac yn cyrhaeddyd i Aser o du y gorllewin, ac i Jwda a’r Iorddonen tua chyfodiad haul. 35 A’r dinasoedd caerog, Sidim, Ser, a Hammath, Raccath, a Chinnereth, 36 Ac Adama, a Rama, a Hasor, 37 A Cedes, ac Edrei, ac En‐hasor, 38 Ac Iron, a Migdal‐el, Horem, a Beth‐anath, a Beth‐semes: pedair dinas ar bymtheg, a’u pentrefydd. 39 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Nafftali, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd, a’u pentrefydd.

40 Y seithfed coelbren a ddaeth allan dros lwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd. 41 A therfyn eu hetifeddiaeth hwynt oedd Sora, ac Estaol, ac Ir‐Semes, 42 A Saalabbin, ac Ajalon, ac Ithla, 43 Ac Elon, a Thimnatha, ac Ecron, 44 Ac Eltece, a Gibbethon, a Baalath, 45 A Jehud, a Bene‐berac, a Gath‐rimmon, 46 A Meiarcon, a Raccon, gyda’r terfyn ar gyfer Jaffo. 47 A therfyn meibion Dan a aeth yn rhy fychan iddynt: am hynny meibion Dan a aethant i fyny i ymladd yn erbyn Lesem, ac a’i henillasant hi; trawsant hefyd hi â min y cleddyf, a meddianasant hi, a thrigasant ynddi: a galwasant Lesem yn Dan, yn ôl enw Dan eu tad. 48 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Dan, yn ôl eu teuluoedd; y dinasoedd hyn, a’u pentrefydd.

49 Pan orffenasant rannu’r wlad yn etifeddiaethau yn ôl ei therfynau, meibion Israel a roddasant etifeddiaeth i Josua mab Nun yn eu mysg: 50 Wrth orchymyn yr Arglwydd y rhoddasant iddo ef y ddinas a ofynnodd efe; sef Timnath‐Sera, ym mynydd Effraim: ac efe a adeiladodd y ddinas, ac a drigodd ynddi. 51 Dyma yr etifeddiaethau a roddodd Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun, a phennau tadau llwythau meibion Israel, yn etifeddiaeth, wrth goelbren, yn Seilo, o flaen yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod. Felly y gorffenasant rannu’r wlad.

Next
Josua 18
Josua 20
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway