Add parallel Print Page Options

15 A rhandir llwyth meibion Jwda, yn ôl eu teuluoedd, ydoedd tua therfyn Edom: anialwch Sin, tua’r deau, oedd eithaf y terfyn deau. A therfyn y deau oedd iddynt hwy o gwr y môr heli, o’r graig sydd yn wynebu tua’r deau. Ac yr oedd yn myned allan o’r deau hyd riw Acrabbim, ac yr oedd yn myned rhagddo i Sin, ac yn myned i fyny o du y deau i Cades‐Barnea; ac yn myned hefyd i Hesron, ac yn esgyn i Adar, ac yn amgylchynu i Carcaa. Ac yr oedd yn myned tuag Asmon, ac yn myned allan i afon yr Aifft; ac eithafoedd y terfyn hwnnw oedd wrth y môr: hyn fydd i chwi yn derfyn deau. A’r terfyn tua’r dwyrain yw y môr heli, hyd eithaf yr Iorddonen: a’r terfyn o du y gogledd, sydd o graig y môr, yn eithaf yr Iorddonen. A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Beth‐Hogla, ac yn myned o’r gogledd hyd Beth‐Araba; a’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny at faen Bohan mab Reuben. A’r terfyn hwn oedd yn myned i fyny i Debir o ddyffryn Achor, a thua’r gogledd yn edrych tua Gilgal, o flaen rhiw Adummim, yr hon sydd o du y deau i’r afon: y terfyn hefyd sydd yn myned hyd ddyfroedd En‐semes, a’i gwr eithaf sydd wrth En‐rogel. A’r terfyn sydd yn myned i fyny trwy ddyffryn meibion Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid o du y deau, honno yw Jerwsalem: y terfyn hefyd sydd yn myned i fyny i ben y mynydd sydd o flaen dyffryn Hinnom, tua’r gorllewin, yr hwn sydd yng nghwr glyn y cewri, tua’r gogledd. A’r terfyn sydd yn cyrhaeddyd o ben y mynydd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa, ac sydd yn myned allan i ddinasoedd mynydd Effron: y terfyn hefyd sydd yn tueddu i Baala, honno yw Ciriath‐jearim. 10 A’r terfyn sydd yn amgylchu o Baala tua’r gorllewin, i fynydd Seir, ac sydd yn myned rhagddo at ystlys mynydd Jearim, o du y gogledd, honno yw Chesalon, ac y mae yn disgyn i Beth‐semes, ac yn myned i Timna. 11 A’r terfyn sydd yn myned i ystlys Ecron, tua’r gogledd: a’r terfyn sydd yn tueddu i Sicron, ac yn myned rhagddo i fynydd Baala, ac yn cyrhaeddyd i Jabneel; a chyrrau eithaf y terfyn sydd wrth y môr. 12 A therfyn y gorllewin yw y môr mawr a’i derfyn. Dyma derfyn meibion Jwda o amgylch, wrth eu teuluoedd.

13 Ac i Caleb mab Jeffunne y rhoddodd efe ran ymysg meibion Jwda, yn ôl gair yr Arglwydd wrth Josua; sef Caer‐Arba, tad yr Anaciaid, honno yw Hebron. 14 A Chaleb a yrrodd oddi yno dri mab Anac, Sesai, ac Ahiman, a Thalmai, meibion Anac. 15 Ac efe a aeth i fyny oddi yno at drigolion Debir; ac enw Debir o’r blaen oedd Ciriath‐Seffer.

16 A dywedodd Caleb, Pwy bynnag a drawo Ciriath‐Seffer, ac a’i henillo hi; iddo ef y rhoddaf Achsa fy merch yn wraig. 17 Ac Othniel mab Cenas, brawd Caleb, a’i henillodd hi. Yntau a roddodd Achsa ei ferch iddo ef yn wraig. 18 A phan ddaeth hi i mewn ato ef, yna hi a’i hanogodd ef i geisio gan ei thad faes: ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn. A dywedodd Caleb wrthi, Beth a fynni di? 19 A hi a ddywedodd, Dyro i mi rodd; canys gwlad y deau a roddaist i mi: dyro i mi hefyd ffynhonnau dyfroedd. Ac efe a roddodd iddi y ffynhonnau uchaf, a’r ffynhonnau isaf. 20 Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Jwda, wrth eu teuluoedd.

21 A’r dinasoedd o du eithaf i lwyth meibion Jwda, tua therfyn Edom, ar du y deau, oeddynt Cabseel, ac Eder, a Jagur, 22 Cina hefyd, a Dimona, ac Adada, 23 Cedes hefyd, a Hasor, ac Ithnan, 24 A Siff, a Thelem, a Bealoth, 25 A Hasor, Hadatta, a Cirioth, a Hesron, honno yw Hasor, 26 Ac Amam, a Sema, a Molada, 27 A Hasar‐Gada, a Hesmon, a Beth‐palet, 28 A Hasar‐sual, a Beer‐seba, a Bisiothia, 29 Baala, ac Iim, ac Asem, 30 Ac Eltolad, a Chesil, a Horma, 31 A Siclag, a Madmanna, a Sansanna, 32 A Lebaoth, a Silhim, ac Ain, a Rimmon: yr holl ddinasoedd oedd naw ar hugain, a’u pentrefydd. 33 Ac yn y dyffryn, Esthaol, a Sorea, ac Asna, 34 A Sanoa, ac En‐gannim, Tappua, ac Enam, 35 Jarmuth, ac Adulam, Socho, ac Aseca, 36 A Saraim, ac Adithaim, a Gedera, a Gederothaim; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. 37 Senan, a Hadasa, a Migdal‐Gad, 38 A Dilean, a Mispe, a Joctheel, 39 Lachis, a Boscath, ac Eglon, 40 Chabbon hefyd, a Lahmam, a Chithlis, 41 A Gederoth, Beth‐Dagon, a Naama, a Macceda; un ddinas ar bymtheg, a’u pentrefydd. 42 Libna, ac Ether, ac Asan, 43 A Jiffta, ac Asna, a Nesib, 44 Ceila hefyd, ac Achsib, a Maresa; naw o ddinasoedd, a’u pentrefi. 45 Ecron, a’i threfi, a’i phentrefydd: 46 O Ecron hyd y môr, yr hyn oll oedd gerllaw Asdod, a’u pentrefydd: 47 Asdod, a’i threfydd, a’i phentrefydd; Gasa, a’i threfydd, a’i phentrefydd, hyd afon yr Aifft; a’r môr mawr, a’i derfyn.

48 Ac yn y mynydd‐dir; Samir, a Jattir, a Socho, 49 A Danna, a Ciriath‐sannath, honno yw Debir, 50 Ac Anab, ac Astemo, ac Anim, 51 A Gosen, a Holon, a Gilo; un ddinas ar ddeg, a’u pentrefydd. 52 Arab, a Duma, ac Esean, 53 A Janum, a Beth‐tappua, ac Affeca, 54 A Humta, a Chaer‐Arba, honno yw Hebron, a Sïor; naw dinas, a’u trefydd. 55 Maon, Carmel, a Siff, a Jutta, 56 A Jesreel, a Jocdeam, a Sanoa, 57 Cain, Gibea, a Thimna; deg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. 58 Halhul, Beth‐sur, a Gedor, 59 A Maarath, a Beth‐anoth, ac Eltecon; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd. 60 Ciriath‐baal, honno yw Ciriath‐jearim, a Rabba; dwy ddinas, a’u pentrefydd.

61 Yn yr anialwch; Beth‐araba, Midin, a Sechacha, 62 A Nibsan, a dinas yr halen, ac En‐gedi; chwech o ddinasoedd, a’u pentrefydd. 63 Ond ni allodd meibion Jwda yrru allan y Jebusiaid, trigolion Jerwsalem: am hynny y trig y Jebusiaid gyda meibion Jwda yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.