Add parallel Print Page Options

Yna Job a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir mi a wn mai felly y mae: canys pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw? Os myn efe ymryson ag ef, ni all ateb iddo am un peth o fil. Y mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth: pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd? Yr hwn sydd yn symud mynyddoedd, ac heb wybod iddynt: yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint. Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaear allan o’i lle, fel y cryno ei cholofnau hi. Yr hwn a ddywed wrth yr haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y sêr. Yr hwn yn unig sydd yn taenu y nefoedd, ac yn sathru ar donnau y môr. Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac ystafelloedd y deau. 10 Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy, a rhyfeddodau aneirif. 11 Wele, efe a â heibio i mi, ac nis gwelaf ef; ac efe a â rhagddo, ac ni chanfyddaf ef. 12 Wele, efe a ysglyfaetha, pwy a’i lluddia? pwy a ddywed wrtho, Pa beth yr wyt yn ei wneuthur? 13 Oni thry Duw ei ddicllonedd ymaith, dano ef y cryma cynorthwywyr balchder. 14 Pa faint llai yr atebaf iddo ef, ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef? 15 I’r hwn, pe bawn gyfiawn, nid atebwn, eithr ymbiliwn â’m barnwr. 16 Pe galwaswn, a phed atebasai efe i mi, ni chredwn y gwrandawai efe fy lleferydd. 17 Canys efe a’m dryllia â chorwynt, ac a amlha fy archollion yn ddiachos. 18 Ni ddioddef efe i mi gymryd fy anadl: ond efe a’m lleinw â chwerwder. 19 Os soniaf am gadernid, wele ef yn gadarn: ac os am farn, pwy a ddadlau drosof fi? 20 Os myfi a ymgyfiawnhaf, fy ngenau a’m barn yn euog: os perffaith y dywedaf fy mod, efe a’m barn yn gildyn. 21 Pe byddwn berffaith, eto nid adwaenwn fy enaid; ffiaidd fyddai gennyf fy einioes. 22 Dyma un peth, am hynny mi a’i dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith a’r annuwiol. 23 Os lladd y ffrewyll yn ddisymwth, efe a chwardd am ben profedigaeth y diniwed. 24 Y ddaear a roddwyd yn llaw yr annuwiol: efe a fwrw hug dros wynebau ei barnwyr hi: onid e, pa le y mae, a phwy yw efe? 25 A’m dyddiau i sydd gynt na rhedegwr: ffoant ymaith heb weled daioni. 26 Aethant heibio megis llongau buain; megis yr eheda eryr at ymborth. 27 Os dywedaf, Gollyngaf fy nghwyn dros gof; mi a adawaf fy nhrymder, ac a ymgysuraf: 28 Yr wyf yn ofni fy holl ddoluriau: gwn na’m berni yn wirion. 29 Os euog fyddaf, paham yr ymflinaf yn ofer? 30 Os ymolchaf mewn dwfr eira, ac os glanhaf fy nwylo yn lân; 31 Eto ti a’m trochi yn y pwll; a’m dillad a’m ffieiddiant. 32 Canys nid gŵr fel myfi yw efe, fel yr atebwn iddo, ac y delem ynghyd i farn. 33 Nid oes rhyngom ni ddyddiwr a all osod ei law arnom ein dau. 34 Tynned ymaith ei wialen oddi arnaf; ac na ddychryned ei ofn ef fyfi: 35 Yna y dywedwn, ac nid ofnwn ef: ond nid felly y mae gyda myfi.