
Job 5 Beibl William Morgan (BWM)5 Galw yn awr, od oes neb a etyb i ti, ac at bwy o’r saint y troi di? 2 Canys dicllondeb a ladd yr ynfyd, a chenfigen a ladd yr annoeth. 3 Mi a welais yr ynfyd yn gwreiddio: ac a felltithiais ei drigfa ef yn ddisymwth. 4 Ei feibion ef a bellheir oddi wrth iachawdwriaeth: dryllir hwynt hefyd yn y porth, ac nid oes gwaredydd. 5 Yr hwn y bwyty y newynog ei gynhaeaf, wedi iddo ei gymryd o blith drain, a’r sychedig a lwnc eu cyfoeth. 6 Er na ddaw cystudd allan o’r pridd, ac na flagura gofid allan o’r ddaear: 7 Ond dyn a aned i flinder, fel yr eheda gwreichionen i fyny. 8 Eto myfi a ymgynghorwn â Duw: ac ar Dduw y rhoddwn fy achos: 9 Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion ac anchwiliadwy; rhyfeddol heb rifedi: 10 Yr hwn sydd yn rhoddi glaw ar wyneb y ddaear; ac yn danfon dyfroedd ar wyneb y meysydd: 11 Gan osod rhai isel mewn uchelder; fel y dyrchefir y galarus i iachawdwriaeth. 12 Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys, fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben. 13 Efe sydd yn dal y doethion yn eu cyfrwystra: a chyngor y cyndyn a ddiddymir. 14 Lliw dydd y cyfarfyddant â thywyllwch, a hwy a balfalant hanner dydd megis lliw nos. 15 Yr hwn hefyd a achub y tlawd rhag y cleddyf, rhag eu safn hwy, a rhag llaw y cadarn. 16 Felly y mae gobaith i’r tlawd, ac anwiredd yn cau ei safn. 17 Wele, gwyn ei fyd y dyn a geryddo Duw; am hynny na ddiystyra gerydd yr Hollalluog. 18 Canys efe a glwyfa, ac a rwym: efe a archolla, a’i ddwylo ef a iachânt. 19 Mewn chwech o gyfyngderau efe ’th wared di; ie, mewn saith ni chyffwrdd drwg â thi. 20 Mewn newyn efe a’th wared rhag marwolaeth: ac mewn rhyfel rhag nerth y cleddyf. 21 Rhag ffrewyll tafod y’th guddir; ac nid ofni rhag dinistr pan ddelo. 22 Mewn dinistr a newyn y chwerddi; ac nid ofni rhag bwystfilod y ddaear. 23 Canys â cherrig y maes y byddi mewn cynghrair; a bwystfil y maes hefyd fydd heddychol â thi. 24 A thi a gei wybod y bydd heddwch yn dy luest: a thi a ymweli â’th drigfa, ac ni phechi. 25 A chei wybod hefyd mai lluosog fydd dy had, a’th hiliogaeth megis gwellt y ddaear. 26 Ti a ddeui mewn henaint i’r bedd, tel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser. 27 Wele hyn, ni a’i chwiliasom, felly y mae: gwrando hynny, a gwybydd er dy fwyn dy hun.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
For the best Bible Gateway experience, upgrade to Bible Gateway Plus. For less than the cost of a latte each month, you'll gain access to a vast digital Bible study library and reduced banner ads to minimize distractions from God's Word. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.