Add parallel Print Page Options

41 A dynni di y lefiathan allan â bach? neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff? A osodi di fach yn ei drwyn ef? neu a dylli di asgwrn ei ên ef â mynawyd? A fawr ymbil efe â thi? a ddywed efe wrthyt ti yn deg? A wna efe amod â thi? a gymeri di ef yn was tragwyddol? A chwaraei di ag ef fel ag aderyn? neu a rwymi di ef i’th lancesau? A swpera cyfeillion arno? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiandwyr? A lenwi di ei groen ef â phigau heyrn? neu ei ben â thryferau? Gosod dy law arno ef; cofia y rhyfel; na wna mwy. Wele, ofer ydyw ei obaith ef: oni chwymp un gan ei olwg ef? 10 Nid oes neb mor hyderus â’i godi ef: a phwy a saif ger fy mron i? 11 Pwy a roddodd i mi yn gyntaf, a mi a dalaf? beth bynnag sydd dan yr holl nefoedd, eiddof fi yw. 12 Ni chelaf ei aelodau ef, na’i gryfder, na gweddeidd‐dra ei ystum ef. 13 Pwy a ddatguddia wyneb ei wisg ef? pwy a ddaw ato ef â’i ffrwyn ddauddyblyg? 14 Pwy a egyr ddorau ei wyneb ef? ofnadwy yw amgylchoedd ei ddannedd ef. 15 Ei falchder yw ei emau, wedi eu cau ynghyd megis â sêl gaeth. 16 Y mae y naill mor agos at y llall, fel na ddaw gwynt rhyngddynt. 17 Pob un a lŷn wrth ei gilydd; hwy a gydymgysylltant, fel na wahenir hwy. 18 Wrth ei disian ef y tywynna goleuni, a’i lygaid ef sydd fel amrantau y bore. 19 Ffaglau a ânt allan, a gwreichion tanllyd a neidiant o’i enau ef. 20 Mwg a ddaw allan o’i ffroenau, fel o bair neu grochan berwedig. 21 Ei anadl a wna i’r glo losgi, a fflam a ddaw allan o’i enau. 22 Yn ei wddf y trig cryfder, a thristwch a dry yn llawenydd o’i flaen ef. 23 Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd: caledodd ynddo ei hun, fel na syflo. 24 Caled ydyw ei galon fel carreg: a chaled fel darn o’r maen isaf i felin. 25 Rhai cryfion a ofnant pan godo efe: rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhânt. 26 Cleddyf yr hwn a’i trawo, ni ddeil; y waywffon, y bicell, na’r llurig. 27 Efe a gyfrif haearn fel gwellt, a phres fel pren pwdr. 28 Ni phair saeth iddo ffoi: cerrig tafl a droed iddo yn sofl. 29 Picellau a gyfrifir fel soflyn; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon. 30 Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd: efe a daena bethau llymion ar hyd y clai. 31 Efe a wna i’r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint. 32 Efe a wna lwybr golau ar ei ôl; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn. 33 Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo, yr hwn a wnaethpwyd heb ofn. 34 Efe a edrych ar bob peth uchel: brenin ydyw ar holl feibion balchder.