Add parallel Print Page Options

29 Yna Job a barablodd drachefn, ac a ddywedodd, O na bawn i fel yn y misoedd o’r blaen, fel yn y dyddiau pan gadwai Duw fi; Pan wnâi efe i’w oleuni lewyrchu ar fy mhen, wrth oleuni yr hwn y rhodiwn trwy dywyllwch; Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid, a dirgelwch Duw ar fy mhabell; Pan oedd yr Hollalluog eto gyda mi, a’m plant o’m hamgylch; Pan olchwn fy nghamre ag ymenyn, a phan dywalltai y graig i mi afonydd o olew! Pan awn i allan i’r porth trwy y dref; pan baratown fy eisteddfa yn yr heol, Llanciau a’m gwelent, ac a ymguddient; a henuriaid a gyfodent, ac a safent i fyny. Tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a osodent eu llaw ar eu genau. 10 Pendefigion a dawent â sôn, a’u tafod a lynai wrth daflod eu genau. 11 Pan y’m clywai clust, hi a’m bendithiai; a phan y’m gwelai llygad, efe a dystiolaethai gyda mi: 12 Am fy mod yn gwaredu’r tlawd a fyddai yn gweiddi, a’r amddifad, a’r hwn ni byddai gynorthwywr iddo. 13 Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu. 14 Gwisgwn gyfiawnder, a hithau a wisgai amdanaf fi: a’m barn fyddai fel mantell a choron. 15 Llygaid oeddwn i’r dall; a thraed oeddwn i’r cloff. 16 Tad oeddwn i’r anghenog; a’r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan. 17 Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn, ac a dynnwn yr ysglyfaeth allan o’i ddannedd ef. 18 Yna y dywedwn, Byddaf farw yn fy nyth; a byddaf mor aml fy nyddiau â’r tywod. 19 Fy ngwreiddyn oedd yn ymdaenu wrth y dyfroedd; a’r gwlith a arhosodd ar hyd nos ar fy mrig. 20 Fy ngogoniant oedd ir ynof fi; a’m bwa a adnewyddai yn fy llaw. 21 Hwy a wrandawent arnaf, ac a ddisgwylient; distawent wrth fy nghyngor. 22 Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy eilwaith; a’m hymadrodd a ddiferai arnynt hwy. 23 A hwy a ddisgwylient amdanaf fel am y glaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar‐law. 24 Os chwarddwn arnynt hwy, ni chredent; ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio. 25 Dewiswn eu ffordd hwynt, eisteddwn yn bennaf, a thrigwn fel brenin mewn llu, megis yr hwn a gysura rai galarus.