Add parallel Print Page Options

27 A Job a barablodd eilwaith, ac a ddywedodd, Y mae Duw yn fyw, yr hwn a ddug ymaith fy marn; a’r Hollalluog, yr hwn a ofidiodd fy enaid; Tra fyddo fy anadl ynof, ac ysbryd Duw yn fy ffroenau; Ni ddywed fy ngwefusau anwiredd, ac ni thraetha fy nhafod dwyll. Na ato Duw i mi eich cyfiawnhau chwi: oni threngwyf, ni symudaf fy mherffeithrwydd oddi wrthyf. Yn fy nghyfiawnder y glynais, ac nis gollyngaf hi: ni waradwydda fy nghalon fi tra fyddwyf byw. Bydded fy ngelyn fel yr annuwiol; a’r hwn sydd yn codi yn fy erbyn, fel yr anwir. Canys pa obaith sydd i’r rhagrithiwr, er elwa ohono ef, pan dynno Duw ei enaid ef allan? A wrendy Duw ar ei lef, pan ddelo cyfyngder arno? 10 A ymlawenycha efe yn yr Hollalluog? a eilw efe ar Dduw bob amser? 11 Myfi a’ch dysgaf chwi trwy law Duw: ni chelaf yr hyn sydd gyda’r Hollalluog. 12 Wele, chwychwi oll a’i gwelsoch; a phaham yr ydych chwi felly yn ofera mewn oferedd? 13 Dyma ran dyn annuwiol gyda Duw; ac etifeddiaeth y rhai traws, yr hon a gânt hwy gan yr Hollalluog. 14 Os ei feibion ef a amlheir, hwy a amlheir i’r cleddyf: a’i hiliogaeth ef ni ddigonir â bara. 15 Ei weddillion ef a gleddir ym marwolaeth: a’i wragedd gweddwon nid wylant. 16 Er iddo bentyrru arian fel llwch, a darparu dillad fel clai; 17 Efe a’i darpara, ond y cyfiawn a’i gwisg: a’r diniwed a gyfranna yr arian. 18 Efe a adeiladodd ei dŷ fel gwyfyn, ac fel bwth a wna gwyliwr. 19 Y cyfoethog a huna, ac nis cesglir ef: efe a egyr ei lygaid, ac nid yw. 20 Dychryniadau a’i goddiweddant ef fel dyfroedd: corwynt a’i lladrata ef liw nos. 21 Y dwyreinwynt a’i cymer ef i ffordd, ac efe a â ymaith; ac a’i teifl ef fel corwynt allan o’i le. 22 Canys Duw a deifl arno ef, ac nid arbed: gan ffoi, efe a fynnai ffoi rhag ei law ef. 23 Curant eu dwylo arno, ac a’i hysiant allan o’i le.