
Job 18 Beibl William Morgan (BWM)18 A Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd, 2 Pa bryd y derfydd eich ymadrodd? ystyriwch, wedi hynny ninnau a lefarwn. 3 Paham y cyfrifed nyni fel anifeiliaid? ac yr ydym yn wael yn eich golwg chwi? 4 O yr hwn sydd yn rhwygo ei enaid yn ei ddicllondeb, ai er dy fwyn di y gadewir y ddaear? neu y symudir y graig allan o’i lle? 5 Ie, goleuni yr annuwiolion a ddiffoddir, a gwreichionen ei dân ef ni lewyrcha. 6 Goleuni a dywylla yn ei luesty ef; a’i lusern a ddiffydd gydag ef. 7 Camre ei gryfder ef a gyfyngir, a’i gyngor ei hun a’i bwrw ef i lawr. 8 Canys efe a deflir i’r rhwyd erbyn ei draed, ac ar faglau y rhodia efe. 9 Magl a ymeifl yn ei sawdl ef, a’r gwylliad fydd drech nag ef. 10 Hoenyn a guddied iddo ef yn y ddaear, a magl iddo ar y llwybr. 11 Braw a’i brawycha ef o amgylch, ac a’i gyr i gymryd ei draed. 12 Ei gryfder fydd newynllyd, a dinistr fydd parod wrth ei ystlys. 13 Efe a ysa gryfder ei groen ef: cyntaf‐anedig angau a fwyty ei gryfder ef. 14 Ei hyder ef a dynnir allan o’i luesty: a hynny a’i harwain ef at frenin dychryniadau. 15 Efe a drig yn ei luest ef, am nad eiddo ef ydyw: brwmstan a wasgerir ar ei drigfa ef. 16 Ei wraidd a sychant oddi tanodd, a’i frig a dorrir oddi arnodd. 17 Ei goffadwriaeth a gollir o’r ddaear, ac ni bydd enw iddo ar wyneb yr heol. 18 Efe a yrrir allan o oleuni i dywyllwch: efe a ymlidir allan o’r byd. 19 Ni bydd iddo fab nac ŵyr ymysg ei bobl; nac un wedi ei adael yn ei drigfannau ef. 20 Y rhai a ddêl ar ei ôl, a synna arnynt oherwydd ei ddydd ef; a’r rhai o’r blaen a gawsant fraw. 21 Yn wir, dyma drigleoedd yr anwir; a dyma le y dyn nid edwyn Dduw.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
Now that you've created a Bible Gateway account, upgrade to Bible Gateway Plus: the ultimate online Bible reading & study experience! Bible Gateway Plus equips you to answer the toughest questions about faith, God, and the Bible with access to a vast digital Bible study library. And it's all integrated seamlessly into your Bible Gateway experience. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.