Add parallel Print Page Options

17 Fy anadl a lygrwyd, fy nyddiau a ddiffoddwyd, beddau sydd barod i mi. Onid oes watwarwyr gyda mi? ac onid yw fy llygad yn aros yn eu chwerwedd hwynt? Dyro i lawr yn awr, dyro i mi feichiau gyda thi: pwy ydyw efe a dery ei law yn fy llaw i? Canys cuddiaist eu calon hwynt oddi wrth ddeall: am hynny ni ddyrchefi di hwynt. Yr hwn a ddywed weniaith i’w gyfeillion, llygaid ei feibion ef a ballant. Yn ddiau efe a’m gosododd yn ddihareb i’r bobl, ac o’r blaen yr oeddwn megis tympan iddynt. Am hynny y tywyllodd fy llygad gan ddicllonedd, ac y mae fy aelodau oll fel cysgod. Y rhai uniawn a synnant am hyn; a’r diniwed a ymgyfyd yn erbyn y rhagrithiwr. Y cyfiawn hefyd a ddeil ei ffordd; a’r glân ei ddwylo a chwanega gryfder. 10 Ond chwi oll, dychwelwch, a deuwch yn awr: am na chaf fi ŵr doeth yn eich plith chwi. 11 Fy nyddiau a aeth heibio, fy amcanion a dynned ymaith; sef meddyliau fy nghalon. 12 Gwnânt y nos yn ddydd: byr yw y goleuni, oherwydd tywyllwch. 13 Os disgwyliaf, y bedd sydd dŷ i mi: mewn tywyllwch y cyweiriais fy ngwely. 14 Gelwais ar y pwll, Tydi yw fy nhad: ar y pryf, Fy mam a’m chwaer wyt. 15 A pha le yn awr y mae fy ngobaith? pwy hefyd a genfydd fy ngobaith? 16 Disgynnant i farrau y pwll, pan fyddo ein cydorffwysfa yn y llwch.