Add parallel Print Page Options

40 Yr Arglwydd hefyd a atebodd Job, ac a ddywedodd, Ai dysgeidiaeth yw ymryson â’r Hollalluog? a argyhoeddo Dduw, atebed i hynny.

A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Wele, gwael ydwyf; pa beth a atebaf i ti? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau. Dywedais unwaith; ond nid atebaf: ie, ddwywaith; ond ni chwanegaf.

A’r Arglwydd a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd, Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr; a myfi a ofynnaf i ti, mynega dithau i mi. A wnei di fy marn i yn ofer? a ferni di fi yn anghyfiawn, i’th gyfiawnhau dy hun? A oes i ti fraich fel i Dduw? neu a wnei di daranau â’th lais fel yntau? 10 Ymdrwsia yn awr â mawredd ac â godidowgrwydd, ac ymwisg â gogoniant ac â phrydferthwch. 11 Gwasgar gynddaredd dy ddigofaint; ac edrych ar bob balch, a thafl ef i lawr. 12 Edrych ar bob balch, a gostwng ef; a mathra yr annuwiol yn eu lle. 13 Cuddia hwynt ynghyd yn y pridd, a rhwym eu hwynebau hwynt mewn lle cuddiedig. 14 Yna hefyd myfi a addefaf i ti, y gall dy ddeheulaw dy achub.

15 Yn awr wele y behemoth, yr hwn a wneuthum gyda thi; glaswellt a fwyty efe fel ych. 16 Wele yn awr, ei gryfder ef sydd yn ei lwynau, a’i nerth ym mogel ei fol. 17 Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden: gewynnau ei arennau ef sydd blethedig. 18 Pibellau pres ydyw ei esgyrn ef: ei esgyrn sydd fel ffyn heyrn. 19 Pennaf o ffyrdd Duw ydyw efe: yr hwn a’i gwnaeth a all beri i’w gleddyf nesáu ato ef. 20 Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo: ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes. 21 Efe a orwedd dan goedydd cysgodfawr, mewn lloches o gyrs a siglennydd. 22 Coed cysgodfawr a’i gorchuddiant â’u cysgod: helyg yr afon a’i hamgylchant. 23 Wele, efe a yf yr afon, ac ni phrysura: efe a obeithiai y tynnai efe’r Iorddonen i’w safn. 24 A ddeil neb ef o flaen ei lygaid? a dylla neb ei drwyn ef â bachau?