Add parallel Print Page Options

38 Yna yr Arglwydd a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd, Pwy yw hwn sydd yn tywyllu cyngor ag ymadroddion heb wybodaeth. Gwregysa dy lwynau yn awr fel gŵr; a mynega i mi yr hyn a ofynnwyf i ti. Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall. Pwy a osododd ei mesurau hi, os gwyddost? neu pwy a estynnodd linyn arni hi? Ar ba beth y sicrhawyd ei sylfeini hi? neu pwy a osododd ei chonglfaen hi, Pan gydganodd sêr y bore, ac y gorfoleddodd holl feibion Duw? A phwy a gaeodd y môr â dorau, pan ruthrodd efe allan megis pe delai allan o’r groth? Pan osodais i y cwmwl yn wisg iddo, a niwl tew yn rhwymyn iddo, 10 Pan osodais fy ngorchymyn arno, a phan osodais drosolion a dorau, 11 Gan ddywedyd, Hyd yma y deui, ac nid ymhellach; ac yma yr atelir ymchwydd dy donnau di. 12 A orchmynnaist ti y bore er dy ddyddiau? a ddangosaist ti i’r wawrddydd ei lle, 13 I ymaflyd yn eithafoedd y ddaear, fel yr ysgydwer yr annuwiol allan ohoni hi? 14 Canys hi a ymnewidia fel clai y sêl; a hwy a safant fel dillad. 15 Ac atelir eu goleuni oddi wrth yr annuwiol: dryllir y braich dyrchafedig. 16 A ddaethost ti i eigion y môr? ac a rodiaist ti yng nghilfachau y dyfnder? 17 A agorwyd pyrth marwolaeth i ti? neu a welaist ti byrth cysgod angau? 18 A ystyriaist ti led y ddaear? mynega, os adwaenost ti hi i gyd. 19 Pa ffordd yr eir lle y trig goleuni? a pha le y mae lle y tywyllwch, 20 Fel y cymerit ef hyd ei derfyn, ac y medrit y llwybrau i’w dŷ ef? 21 A wyddit ti yna y genid tydi? ac y byddai rhifedi dy ddyddiau yn fawr? 22 A aethost ti i drysorau yr eira? neu a welaist ti drysorau y cenllysg, 23 Y rhai a gedwais i hyd amser cyfyngder, hyd ddydd ymladd a rhyfel? 24 Pa ffordd yr ymranna goleuni, yr hwn a wasgar y dwyreinwynt ar y ddaear? 25 Pwy a rannodd ddyfrlle i’r llifddyfroedd? a ffordd i fellt y taranau, 26 I lawio ar y ddaear lle ni byddo dyn; ar yr anialwch, sydd heb ddyn ynddo? 27 I ddigoni y tir diffaith a gwyllt, ac i beri i gnwd o laswellt dyfu? 28 A oes dad i’r glaw? neu pwy a genhedlodd ddefnynnau y gwlith? 29 O groth pwy y daeth yr iâ allan? a phwy a genhedlodd lwydrew y nefoedd? 30 Y dyfroedd a guddir megis â charreg, ac wyneb y dyfnder a rewodd. 31 A rwymi di hyfrydwch Pleiades? neu a ddatodi di rwymau Orion? 32 A ddygi di allan Massaroth yn eu hamser? neu a dywysi di Arcturus a’i feibion? 33 A adwaenost ti ordeiniadau y nefoedd? a osodi di ei lywodraeth ef ar y ddaear? 34 A ddyrchefi di dy lef ar y cwmwl, fel y gorchuddio helaethrwydd o ddyfroedd dydi? 35 A ddanfoni di fellt allan, fel yr elont, ac y dywedont wrthyt, Wele ni? 36 Pwy a osododd ddoethineb yn yr ymysgaroedd? neu pwy a roddodd ddeall i’r galon? 37 Pwy a gyfrif y cymylau trwy ddoethineb? a phwy a all atal costrelau y nefoedd. 38 Pan droer y llwch yn dom, fel y glyno y priddellau ynghyd? 39 A elli di hela ysglyfaeth i’r llew? neu a elli di lenwi gwanc cenawon y llewod, 40 Pan ymgrymant yn eu llochesau, pan eisteddant mewn ffau i gynllwyn? 41 Pwy a ddarpar i’r gigfran ei bwyd? pan lefo ei chywion ar Dduw, gwibiant o eisiau bwyd.