Add parallel Print Page Options

37 Wrth hyn hefyd y crŷn fy nghalon, ac y dychlama hi o’i lle. Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef, ac ar y sain a ddaw allan o’i enau ef. Efe a’i hyfforddia dan yr holl nefoedd, a’i fellt hyd eithafoedd y ddaear. Sŵn a rua ar ei ôl ef: efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd, ac ni oeda efe hwynt, pan glywir ei dwrf ef. Duw a wna daranau â’i lais yn rhyfedd: y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni. Canys efe a ddywed wrth yr eira, Bydd ar y ddaear; ac wrth gawod o law, ac wrth law mawr ei nerth ef. Efe a selia law pob dyn, fel yr adwaeno pawb ei waith ef. Yna yr â y bwystfil i’w loches, ac y trig yn ei le. O’r deau y daw corwynt; ac oerni oddi wrth y gogledd. 10 Â’i wynt y rhydd Duw rew: a lled y dyfroedd a gyfyngir. 11 Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau; efe a wasgar ei gwmwl golau. 12 Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi amgylch wrth ei lywodraeth ef: fel y gwnelont hwy beth bynnag a orchmynno efe iddynt, ar hyd wyneb y byd ar y ddaear. 13 Pa un bynnag ai yn gosbedigaeth, ai i’w ddaear, ai er daioni, efe a bair iddo ddyfod. 14 Gwrando hyn, Job; saf, ac ystyria ryfeddodau Duw. 15 A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd Duw hwynt, ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu? 16 A wyddost ti oddi wrth bwysau y cymylau, rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith‐gwbl o wybodaeth? 17 Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes, pan baro efe y ddaear yn dawel â’r deheuwynt? 18 A daenaist ti gydag ef yr wybren, yr hon a sicrhawyd fel drych toddedig? 19 Gwna i ni wybod pa beth a ddywedwn wrtho: ni fedrwn ni gyfleu ein geiriau gan dywyllwch. 20 A fynegir iddo ef os llefaraf? os dywed neb, diau y llyncir ef. 21 Ac yn awr, ni wêl neb y goleuni disglair sydd yn y cymylau: ond myned y mae y gwynt, a’u puro hwynt. 22 O’r gogleddwynt y daw hindda: y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy. 23 Am yr Hollalluog, ni allwn ni mo’i gael ef: ardderchog yw o nerth, a barn, a helaethrwydd cyfiawnder: ni chystuddia efe. 24 Am hynny yr ofna dynion ef: nid edrych efe ar neb doeth eu calon.