Add parallel Print Page Options

36 Ac Elihu a aeth rhagddo, ac a ddywedodd, Goddef i mi ychydig, a myfi a fynegaf i ti, fod gennyf ymadroddion eto dros Dduw. O bell y cymeraf fy ngwybodaeth, ac i’m Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawnder. Canys yn wir nid celwydd fydd fy ymadroddion: y perffaith o wybodaeth sydd gyda thi. Wele, cadarn ydyw Duw, ac ni ddiystyra efe neb: cadarn o gadernid a doethineb yw efe. Nid achub efe fywyd yr annuwiol; ond efe a rydd uniondeb i’r trueiniaid. Ni thyn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn; eithr y maent gyda brenhinoedd, ar yr orseddfainc; ie, efe a’u sicrha yn dragywydd, a hwy a ddyrchefir. Ac os hwy a rwymir â gefynnau, ac a ddelir â rhaffau gorthrymder; Yna efe a ddengys iddynt hwy eu gwaith, a’u hanwireddau, amlhau ohonynt: 10 Ac a egyr eu clustiau hwy i dderbyn cerydd; ac a ddywed am droi ohonynt oddi wrth anwiredd. 11 Os gwrandawant hwy, a’i wasanaethu ef, hwy a dreuliant eu dyddiau mewn daioni, a’u blynyddoedd mewn hyfrydwch. 12 Ac oni wrandawant, difethir hwy gan y cleddyf; a hwy a drengant heb wybodaeth. 13 Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwanegant ddig: ni waeddant pan rwymo efe hwynt. 14 Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuenctid, a’u bywyd gyda’r aflan. 15 Efe a wared y truan yn ei gystudd, ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder. 16 Felly hefyd efe a’th symudasai di o enau cyfyngdra i ehangder, lle nid oes gwasgfa; a saig dy fwrdd di fuasai yn llawn braster. 17 Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol: barn a chyfiawnder a ymaflant ynot. 18 Oherwydd bod digofaint, gochel rhag iddo dy gymryd di ymaith â’i ddyrnod: yna ni’th wared iawn mawr. 19 A brisia efe ar dy olud di? na phrisia, ar aur, nac ar holl gadernid nerth. 20 Na chwennych y nos, pan dorrer pobl ymaith yn eu lle. 21 Ymochel, nac edrych ar anwiredd: canys hynny a ddewisaist o flaen cystudd. 22 Wele, Duw trwy ei nerth a ddyrchafa; pwy sydd yn dysgu fel efe? 23 Pwy a orchmynnodd ei ffordd ef iddo? a phwy a ddywed, Gwnaethost anwiredd? 24 Cofia fawrhau ei waith ef, ar yr hwn yr edrych dynion. 25 Pob dyn a’i gwêl; a dyn a’i cenfydd o bell. 26 Wele, mawr yw Duw, ac nid adwaenom ef; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef. 27 Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân: hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth; 28 Yr hwn a ddifera ac a ddefnynna y cymylau ar ddyn yn helaeth. 29 Hefyd, a ddeall dyn daeniadau y cymylau, a thwrf ei babell ef? 30 Wele, efe a daenodd ei oleuni arno, ac a orchuddiodd waelod y môr. 31 Canys â hwynt y barn efe y bobloedd, ac y rhydd efe fwyd yn helaeth. 32 Efe a guddia y goleuni â chymylau; ac a rydd orchymyn iddo na thywynno trwy y cwmwl sydd rhyngddynt. 33 Ei dwrf a fynega amdano, a’r anifeiliaid am y tarth.