Add parallel Print Page Options

22 Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd, A wna gŵr lesâd i Dduw, fel y gwna y synhwyrol lesâd iddo ei hun? Ai digrifwch ydyw i’r Hollalluog dy fod di yn gyfiawn? neu ai elw dy fod yn perffeithio dy ffyrdd? Ai rhag dy ofn y cerydda efe dydi? neu yr â efe gyda thi i farn? Onid ydyw dy ddrygioni di yn aml? a’th anwireddau heb derfyn? Canys cymeraist wystl gan dy frawd yn ddiachos; a diosgaist ddillad y rhai noethion. Ni roddaist ddwfr i’w yfed i’r lluddedig; a thi a ateliaist fara oddi wrth y newynog. Ond y gŵr cadarn, efe bioedd y ddaear; a’r anrhydeddus a drigai ynddi. Danfonaist ymaith wragedd gweddwon yn waglaw; a breichiau y rhai amddifaid a dorrwyd. 10 Am hynny y mae maglau o’th amgylch, ac ofn disymwth yn dy ddychrynu di; 11 Neu dywyllwch rhag gweled ohonot: a llawer o ddyfroedd a’th orchuddiant. 12 Onid ydyw Duw yn uchelder y nefoedd? gwêl hefyd uchder y sêr, mor uchel ydynt. 13 A thi a ddywedi, Pa fodd y gŵyr Duw? a farn efe trwy’r cwmwl tywyll? 14 Y tew gymylau sydd loches iddo, ac ni wêl; ac y mae efe yn rhodio ar gylch y nefoedd. 15 A ystyriaist di yr hen ffordd a sathrodd y gwŷr anwir? 16 Y rhai a dorrwyd pan nid oedd amser; afon a dywalltwyd ar eu sylfaen hwy. 17 Hwy a ddywedasant wrth Dduw, Cilia oddi wrthym: a pha beth a wna’r Hollalluog iddynt hwy? 18 Eto efe a lanwasai eu tai hwy o ddaioni: ond pell yw cyngor yr annuwiolion oddi wrthyf fi. 19 Y rhai cyfiawn a welant, ac a lawenychant: a’r diniwed a’u gwatwar hwynt. 20 Gan na thorred ymaith ein sylwedd ni, eithr y tân a ysodd eu gweddill hwy. 21 Ymarfer, atolwg, ag ef, a bydd heddychlon: o hyn y daw i ti ddaioni. 22 Cymer y gyfraith, atolwg, o’i enau ef, a gosod ei eiriau ef yn dy galon. 23 Os dychweli at yr Hollalluog, ti a adeiledir, symudi anwiredd ymhell oddi wrth dy luestai. 24 Rhoddi aur i gadw fel pridd, ac aur Offir fel cerrig yr afonydd. 25 A’r Hollalluog fydd yn amddiffyn i ti, a thi a gei amldra o arian. 26 Canys yna yr ymhoffi yn yr Hollalluog, ac a ddyrchefi dy wyneb at Dduw. 27 Ti a weddïi arno ef, ac efe a’th wrendy; a thi a deli dy addunedau. 28 Pan ragluniech di beth, efe a sicrheir i ti; a’r goleuni a lewyrcha ar dy ffyrdd. 29 Pan ostynger hwynt, yna y dywedi di, Y mae goruchafiaeth; ac efe a achub y gostyngedig ei olwg. 30 Efe a wareda ynys y diniwed: a thrwy lendid dy ddwylo y gwaredir hi.