Add parallel Print Page Options

A dydd a ddaeth i feibion Duw ddyfod i sefyll gerbron yr Arglwydd; a Satan hefyd a ddaeth yn eu plith hwynt i sefyll gerbron yr Arglwydd. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, O ba le yr ydwyt ti yn dyfod? A Satan a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O dramwy ar hyd y ddaear, ac o ymrodio ynddi. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni? ac yn parhau yn ei berffeithrwydd, er i ti fy annog i yn ei erbyn ef, i’w ddifa ef heb achos? A Satan a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Croen am groen, a’r hyn oll sydd gan ŵr a ddyry efe am ei einioes. Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’i esgyrn ef ac â’i gnawd, ac efe a’th felltithia di o flaen dy wyneb. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Satan, Wele ef yn dy law di; eto cadw ei hoedl ef.

Felly Satan a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd, ac a drawodd Job â chornwydydd blin, o wadn ei droed hyd ei gorun. Ac efe a gymerth gragen i ymgrafu â hi; ac a eisteddodd yn y lludw.

Yna ei wraig a ddywedodd wrtho, A wyt ti eto yn parhau yn dy berffeithrwydd? melltithia Dduw, a bydd farw. 10 Ond efe a ddywedodd wrthi, Lleferaist fel y llefarai un o’r ynfydion: a dderbyniwn ni gan Dduw yr hyn sydd dda, ac oni dderbyniwn yr hyn sydd ddrwg? Yn hyn i gyd ni phechodd Job â’i wefusau.

11 A phan glybu tri chyfaill Job yr holl ddrwg yma a ddigwyddasai iddo ef, hwy a ddaethant bob un o’i fangre ei hun; Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad: canys hwy a gytunasent i ddyfod i gydofidio ag ef, ac i’w gysuro. 12 A phan ddyrchafasant eu llygaid o bell, ac heb ei adnabod ef, hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant; rhwygasant hefyd bob un ei fantell, a thaenasant lwch ar eu pennau tua’r nefoedd. 13 Felly hwy a eisteddasant gydag ef ar y ddaear saith niwrnod a saith noswaith; ac nid oedd neb a ddywedai air wrtho ef: canys gwelent fyned ei ddolur ef yn fawr iawn.