Add parallel Print Page Options

18 A Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd, Pa bryd y derfydd eich ymadrodd? ystyriwch, wedi hynny ninnau a lefarwn. Paham y cyfrifed nyni fel anifeiliaid? ac yr ydym yn wael yn eich golwg chwi? O yr hwn sydd yn rhwygo ei enaid yn ei ddicllondeb, ai er dy fwyn di y gadewir y ddaear? neu y symudir y graig allan o’i lle? Ie, goleuni yr annuwiolion a ddiffoddir, a gwreichionen ei dân ef ni lewyrcha. Goleuni a dywylla yn ei luesty ef; a’i lusern a ddiffydd gydag ef. Camre ei gryfder ef a gyfyngir, a’i gyngor ei hun a’i bwrw ef i lawr. Canys efe a deflir i’r rhwyd erbyn ei draed, ac ar faglau y rhodia efe. Magl a ymeifl yn ei sawdl ef, a’r gwylliad fydd drech nag ef. 10 Hoenyn a guddied iddo ef yn y ddaear, a magl iddo ar y llwybr. 11 Braw a’i brawycha ef o amgylch, ac a’i gyr i gymryd ei draed. 12 Ei gryfder fydd newynllyd, a dinistr fydd parod wrth ei ystlys. 13 Efe a ysa gryfder ei groen ef: cyntaf‐anedig angau a fwyty ei gryfder ef. 14 Ei hyder ef a dynnir allan o’i luesty: a hynny a’i harwain ef at frenin dychryniadau. 15 Efe a drig yn ei luest ef, am nad eiddo ef ydyw: brwmstan a wasgerir ar ei drigfa ef. 16 Ei wraidd a sychant oddi tanodd, a’i frig a dorrir oddi arnodd. 17 Ei goffadwriaeth a gollir o’r ddaear, ac ni bydd enw iddo ar wyneb yr heol. 18 Efe a yrrir allan o oleuni i dywyllwch: efe a ymlidir allan o’r byd. 19 Ni bydd iddo fab nac ŵyr ymysg ei bobl; nac un wedi ei adael yn ei drigfannau ef. 20 Y rhai a ddêl ar ei ôl, a synna arnynt oherwydd ei ddydd ef; a’r rhai o’r blaen a gawsant fraw. 21 Yn wir, dyma drigleoedd yr anwir; a dyma le y dyn nid edwyn Dduw.