Add parallel Print Page Options

15 Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd, A adrodd gŵr doeth wybodaeth o wynt? ac a leinw efe ei fol â’r dwyreinwynt? A ymresyma efe â gair ni fuddia? neu ag ymadroddion y rhai ni wna efe lesâd â hwynt? Yn ddiau ti a dorraist ymaith ofn: yr ydwyt yn atal gweddi gerbron Duw. Canys dy enau a draetha dy anwiredd; ac yr wyt yn dewis tafod y cyfrwys. Dy enau di sydd yn dy fwrw yn euog, ac nid myfi: a’th wefusau sydd yn tystiolaethu yn dy erbyn. A aned tydi yn gyntaf dyn? a lunied tydi o flaen y bryniau? A glywaist ti gyfrinach Duw? ac a ateli di ddoethineb gyda thi dy hun? Beth a wyddost ti a’r nas gwyddom ni? beth a ddeelli di, heb fod hynny hefyd gennym ninnau? 10 Y mae yn ein mysg ni y penllwyd, a’r oedrannus hefyd; hŷn o oedran na’th dad di. 11 Ai bychan gennyt ti ddiddanwch Duw? a oes dim dirgel gyda thi? 12 Pa beth sydd yn dwyn dy feddwl oddi arnat? ac ar ba beth yr amneidia dy lygaid, 13 Gan i ti droi dy feddwl yn erbyn Duw, a gollwng y fath eiriau allan o’th enau? 14 Pa beth yw dyn, i fod yn lân? a’r hwn a aned o wraig, i fod yn gyfiawn? 15 Wele, ni roddes efe ymddiried yn ei saint; a’r nefoedd nid ydynt lân yn ei olwg ef. 16 Pa faint mwy ffiaidd a drewedig ydyw dyn, yr hwn sydd yn yfed anwiredd fel dwfr? 17 Dangosaf i ti, gwrando arnaf; a’r hyn a welais a fynegaf. 18 Yr hyn a fynegodd gwŷr doethion oddi wrth eu tadau, ac nis celasant: 19 I’r rhai yn unig y rhoddwyd y ddaear: ac ni ddaeth alltud yn eu plith hwy. 20 Holl ddyddiau yr annuwiol y bydd efe yn ymofidio: a rhifedi y blynyddoedd a guddiwyd oddi wrth y traws. 21 Trwst ofnadwy sydd yn ei glustiau ef: mewn heddwch y daw y dinistrydd arno. 22 Ni chred efe y dychwel allan o dywyllwch: ac y mae y cleddyf yn gwylied arno. 23 Y mae efe yn crwydro am fara, pa le y byddo: efe a ŵyr fod dydd tywyllwch yn barod wrth ei law. 24 Cystudd a chyfyngdra a’i brawycha ef; hwy a’i gorchfygant, fel brenin parod i ryfel. 25 Canys efe a estynnodd ei law yn erbyn Duw; ac yn erbyn yr Hollalluog yr ymnerthodd. 26 Efe a red yn y gwddf iddo ef, trwy dewdwr torrau ei darianau: 27 Canys efe a dodd ei wyneb â’i fraster: ac a wnaeth dyrch o floneg ar ei denewynnau. 28 A thrigo y mae mewn dinasoedd wedi eu dinistrio, a thai anghyfannedd, y rhai sydd barod i fod yn garneddau. 29 Ni chyfoethoga efe, ni phery ei olud ef chwaith; ac nid estyn efe eu perffeithrwydd hwy ar y ddaear. 30 Nid ymedy efe allan o dywyllwch, y fflam a wywa ei frig ef; ac efe a ymedy trwy anadl ei enau ef. 31 Yr hwn a dwylled, nac ymddirieded mewn oferedd: canys oferedd fydd ei wobr ef. 32 Efe a dorrir ymaith cyn ei ddydd; a’i gangen ni lasa. 33 Efe a ddihidla ei rawn anaeddfed fel gwinwydden; ac a fwrw ei flodeuyn fel olewydden. 34 Canys cynulleidfa rhagrithwyr fydd unig: a thân a ysa luestai gwobrwyr. 35 Y maent yn ymddŵyn blinder, ac yn esgor ar wagedd; a’u bol sydd yn darpar twyll.