Add parallel Print Page Options

25 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia am holl bobl Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, hon oedd y flwyddyn gyntaf i Nebuchodonosor brenin Babilon; Yr hwn a lefarodd y proffwyd Jeremeia wrth holl bobl Jwda, ac wrth holl breswylwyr Jerwsalem, gan ddywedyd, Er y drydedd flwyddyn ar ddeg i Joseia mab Amon brenin Jwda, hyd y dydd hwn, honno yw y drydedd flwyddyn ar hugain, y daeth gair yr Arglwydd ataf, ac mi a ddywedais wrthych, gan foregodi a llefaru, ond ni wrandawsoch. A’r Arglwydd a anfonodd atoch chwi ei holl weision y proffwydi, gan foregodi a’u hanfon; ond ni wrandawsoch, ac ni ogwyddasoch eich clust i glywed. Hwy a ddywedent, Dychwelwch yr awr hon bob un oddi wrth ei ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eich gweithredoedd; a thrigwch yn y tir a roddodd yr Arglwydd i chwi ac i’ch tadau, byth ac yn dragywydd: Ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu, ac i ymgrymu iddynt; ac na lidiwch fi â gweithredoedd eich dwylo, ac ni wnaf niwed i chwi. Er hynny ni wrandawsoch arnaf, medd yr Arglwydd, fel y digiech fi â gweithredoedd eich dwylo, er drwg i chwi eich hunain.

Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau, Wele, mi a anfonaf ac a gymeraf holl deuluoedd y gogledd, medd yr Arglwydd, a Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, a mi a’u dygaf hwynt yn erbyn y wlad hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; difrodaf hwynt hefyd, a gosodaf hwynt yn syndod, ac yn chwibaniad, ac yn anrhaith tragwyddol. 10 Paraf hefyd i lais hyfrydwch, ac i lais llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, i sŵn y meini melinau, ac i lewyrch y canhwyllau, ballu ganddynt. 11 A’r holl dir hwn fydd yn ddiffeithwch, ac yn syndod: a’r cenhedloedd hyn a wasanaethant frenin Babilon ddeng mlynedd a thrigain. 12 A phan gyflawner deng mlynedd a thrigain, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â’r genedl honno, medd yr Arglwydd, am eu hanwiredd, ac â gwlad y Caldeaid; a mi a’i gwnaf hi yn anghyfannedd tragwyddol. 13 Dygaf hefyd ar y wlad honno fy holl eiriau, y rhai a leferais i yn ei herbyn, sef cwbl ag sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn; yr hyn a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd. 14 Canys cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddynt hwythau: a mi a dalaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd, ac yn ôl gwaith eu dwylo eu hun.

15 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, wrthyf fi; Cymer ffiol win y digofaint yma o’m llaw, a dod hi i’w hyfed i’r holl genhedloedd y rhai yr wyf yn dy anfon atynt. 16 A hwy a yfant, ac a frawychant, ac a wallgofant, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonaf yn eu plith. 17 Yna mi a gymerais y ffiol o law yr Arglwydd, ac a’i rhoddais i’w hyfed i’r holl genhedloedd y rhai yr anfonasai yr Arglwydd fi atynt: 18 I Jerwsalem, ac i ddinasoedd Jwda, ac i’w brenhinoedd, ac i’w thywysogion: i’w gwneuthur hwynt yn ddiffeithwch, yn syndod, yn chwibaniad, ac yn felltith, fel y mae heddiw; 19 I Pharo brenin yr Aifft, ac i’w weision, ac i’w dywysogion, ac i’w holl bobl; 20 Ac i’r holl bobl gymysg, ac i holl frenhinoedd gwlad Us, a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid, ac i Ascalon, ac Assa, ac Ecron, a gweddill Asdod; 21 I Edom, a Moab, a meibion Ammon; 22 I holl frenhinoedd Tyrus hefyd, ac i holl frenhinoedd Sidon, ac i frenhinoedd yr ynysoedd y rhai sydd dros y môr; 23 I Dedan, a Thema, a Bus; ac i bawb o’r cyrrau eithaf; 24 Ac i holl frenhinoedd Arabia, ac i holl frenhinoedd y bobl gymysg, y rhai sydd yn trigo yn yr anialwch; 25 Ac i holl frenhinoedd Simri, ac i holl frenhinoedd Elam, ac i holl frenhinoedd y Mediaid; 26 Ac i holl frenhinoedd y gogledd, agos a phell, bob un gyda’i gilydd; ac i holl deyrnasoedd y byd, y rhai sydd ar wyneb y ddaear: a brenin Sesach a yf ar eu hôl hwynt. 27 A thi a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Yfwch a meddwch, a chwydwch, a syrthiwch, ac na chyfodwch, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonwyf i’ch plith. 28 Ac os gwrthodant dderbyn y ffiol o’th law di i yfed, yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Diau yr yfwch: 29 Canys wele fi yn dechrau drygu y ddinas y gelwir fy enw arni, ac a ddihengwch chwi yn ddigerydd? Na ddihengwch; canys yr ydwyf fi yn galw am gleddyf ar holl drigolion y ddaear, medd Arglwydd y lluoedd. 30 Am hynny proffwyda yn eu herbyn yr holl eiriau hyn, a dywed wrthynt, Yr Arglwydd oddi uchod a rua, ac a rydd ei lef o drigle ei sancteiddrwydd; gan ruo y rhua efe ar ei drigle; bloedd, fel rhai yn sathru grawnwin, a rydd efe yn erbyn holl breswylwyr y ddaear. 31 Daw twrf hyd eithafoedd y ddaear; canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a’r cenhedloedd: efe a ymddadlau â phob cnawd, y drygionus a ddyry efe i’r cleddyf, medd yr Arglwydd. 32 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele ddrwg yn myned allan o genedl at genedl, a chorwynt mawr yn cyfodi o ystlysau y ddaear. 33 A lladdedigion yr Arglwydd a fyddant y dwthwn hwnnw o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: ni alerir drostynt, ac nis cesglir, ac nis cleddir hwynt; fel tomen y byddant ar wyneb y ddaear.

34 Udwch, fugeiliaid, a gwaeddwch; ac ymdreiglwch mewn lludw, chwi flaenoriaid y praidd: canys cyflawnwyd dyddiau eich lladdedigaeth a’ch gwasgarfa; a chwi a syrthiwch fel llestr dymunol. 35 Metha gan y bugeiliaid ffoi, a chan flaenoriaid y praidd ddianc. 36 Clywir llef gwaedd y bugeiliaid, ac udfa blaenoriaid y praidd: canys yr Arglwydd a anrheithiodd eu porfa hwynt. 37 A’r anheddau heddychlon a ddryllir, gan lid digofaint yr Arglwydd. 38 Efe a wrthododd ei loches, fel cenau llew: canys y mae eu tir yn anghyfannedd, gan lid y gorthrymwr, a chan lid ei ddigofaint ef.