
Jeremeia 24 Beibl William Morgan (BWM)24 Yr Arglwydd a ddangosodd i mi, ac wele ddau gawell o ffigys wedi eu gosod ar gyfer teml yr Arglwydd, wedi i Nebuchodonosor brenin Babilon gaethgludo Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a thywysogion Jwda, gyda’r seiri a’r gofaint o Jerwsalem, a’u dwyn i Babilon. 2 Un cawell oedd o ffigys da iawn, fel ffigys yr aeddfediad cyntaf: a’r cawell arall oedd o ffigys drwg iawn, y rhai ni ellid eu bwyta rhag eu dryced. 3 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Beth a weli di, Jeremeia? A mi a ddywedais, Ffigys: y ffigys da, yn dda iawn; a’r rhai drwg, yn ddrwg iawn, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced. 4 Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, Fel y ffigys da hyn, felly y cydnabyddaf fi gaethglud Jwda, y rhai a anfonais o’r lle hwn i wlad y Caldeaid er daioni. 6 Canys mi a osodaf fy ngolwg arnynt er daioni, ac a’u dygaf drachefn i’r wlad hon, ac a’u hadeiladaf hwynt, ac ni thynnaf i lawr; plannaf hefyd hwynt, ac nis diwreiddiaf. 7 Rhoddaf hefyd iddynt galon i’m hadnabod, mai yr Arglwydd ydwyf fi: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwy: canys hwy a droant ataf fi â’u holl galon. 8 Ac fel y ffigys drwg, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced, (diau fel hyn y dywed yr Arglwydd,) felly y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i benaethiaid, a gweddill Jerwsalem, y rhai a weddillwyd yn y wlad hon, a’r rhai sydd yn trigo yn nhir yr Aifft: 9 Ie, rhoddaf hwynt i’w symud i holl deyrnasoedd y ddaear, er drwg iddynt, i fod yn waradwydd ac yn ddihareb, yn watwargerdd ac yn felltith, ym mhob man lle y gyrrwyf hwynt. 10 A mi a anfonaf arnynt y cleddyf, newyn, a haint, nes eu darfod oddi ar y ddaear yr hon a roddais iddynt ac i’w tadau.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to choose a monthly or yearly subscription, and then enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
Congratulations on your Bible Gateway account!
As an account holder, you can highlight Bible verses, mark your favorites, and take notes. Over the next few days, you’ll receive a few email tutorials on how to get the most out of your account.
For now, consider improving your experience even more by upgrading to Bible Gateway Plus! With Bible Gateway Plus, you gain instant access to a digital Bible study library, including complete notes from resources like the NIV Study Bible, the NKJV MacArthur Study Bible, and the abridged Expositor's Bible Commentary. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.