Add parallel Print Page Options

23 Gwae y bugeiliaid sydd yn difetha ac yn gwasgaru defaid fy mhorfa! medd yr Arglwydd. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel yn erbyn y bugeiliaid sydd yn bugeilio fy mhobl; Chwi a wasgarasoch fy nefaid, ac a’u hymlidiasoch, ac nid ymwelsoch â hwynt: wele fi yn ymweled â chwi, am ddrygioni eich gweithredoedd, medd yr Arglwydd. A mi a gasglaf weddill fy nefaid o’r holl wledydd lle y gyrrais hwynt, a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w corlannau; yna yr amlhânt ac y chwanegant. Gosodaf hefyd arnynt fugeiliaid, y rhai a’u bugeilia hwynt; ac nid ofnant mwyach, ac ni ddychrynant, ac ni byddant yn eisiau, medd yr Arglwydd.

Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y cyfodaf i Dafydd Flaguryn cyfiawn, a Brenin a deyrnasa ac a lwydda, ac a wna farn a chyfiawnder ar y ddaear. Yn ei ddyddiau ef yr achubir Jwda, ac Israel a breswylia yn ddiogel: a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir ef, YR ARGLWYDD EIN CYFIAWNDER. Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na ddywedant mwyach, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug feibion Israel i fyny o wlad yr Aifft: Eithr, Byw yw yr Arglwydd, yr hwn a ddug i fyny, ac a dywysodd had tŷ Israel o dir y gogledd, ac o bob gwlad lle y gyraswn i hwynt; a hwy a gânt aros yn eu gwlad eu hun.

Oherwydd y proffwydi y torrodd fy nghalon ynof, fy holl esgyrn a grynant: yr ydwyf fel un meddw, ac fel un wedi i win ei orchfygu; oherwydd yr Arglwydd, ac oherwydd geiriau ei sancteiddrwydd ef. 10 Canys llawn yw y ddaear o odinebwyr: canys oherwydd llwon y gofidiodd y ddaear, ac y sychodd tirion leoedd yr anialwch; a’u helynt sydd ddrwg, a’u cadernid nid yw uniawn. 11 Canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd a ragrithiasant: yn fy nhŷ hefyd y cefais eu drygioni hwynt, medd yr Arglwydd. 12 Am hynny y bydd eu ffordd yn llithrig iddynt yn y tywyllwch; gyrrir hwynt rhagddynt, a syrthiant ynddi: canys myfi a ddygaf arnynt ddrygfyd, sef blwyddyn eu gofwy, medd yr Arglwydd. 13 Ar broffwydi Samaria y gwelais hefyd beth diflas: proffwydasant yn Baal, a hudasant fy mhobl Israel. 14 Ac ar broffwydi Jerwsalem y gwelais beth erchyll: torri priodas, a rhodio mewn celwydd: cynorthwyant hefyd ddwylo y drygionus, fel na ddychwel neb oddi wrth ei ddrygioni: y mae y rhai hyn oll i mi fel Sodom, a’i thrigolion fel Gomorra. 15 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd am y proffwydi, Wele, mi a’u bwydaf hwynt â’r wermod, ac a’u diodaf hwynt â dwfr bustl: canys oddi wrth broffwydi Jerwsalem yr aeth lledrith allan i’r holl dir. 16 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Na wrandewch ar eiriau y proffwydi sydd yn proffwydo i chwi: y maent yn eich gwneuthur yn ofer: gweledigaeth eu calon eu hunain a lefarant, ac nid o enau yr Arglwydd. 17 Gan ddywedyd y dywedant wrth fy nirmygwyr, Yr Arglwydd a ddywedodd, Bydd i chwi heddwch; ac wrth bob un sydd yn rhodio wrth amcan ei galon ei hun y dywedant, Ni ddaw arnoch niwed. 18 Canys pwy a safodd yng nghyfrinach yr Arglwydd, ac a welodd ac a glywodd ei air ef? pwy hefyd a ddaliodd ar ei air ef, ac a’i gwrandawodd? 19 Wele, corwynt yr Arglwydd a aeth allan mewn llidiowgrwydd, sef corwynt angerddol a syrth ar ben y drygionus. 20 Digofaint yr Arglwydd ni ddychwel, nes iddo wneuthur, a nes iddo gwblhau meddwl ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hynny yn eglur. 21 Ni hebryngais i y proffwydi hyn, eto hwy a redasant; ni leferais wrthynt, er hynny hwy a broffwydasant. 22 A phe safasent yn fy nghyngor, a phe traethasent fy ngeiriau i’m pobl; yna y gwnaethent iddynt ddychwelyd o’u ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eu gweithredoedd. 23 Ai Duw o agos ydwyf fi, medd yr Arglwydd, ac nid Duw o bell? 24 A lecha un mewn dirgel leoedd, fel nas gwelwyf fi ef? medd yr Arglwydd: onid ydwyf fi yn llenwi y nefoedd a’r ddaear? medd yr Arglwydd. 25 Mi a glywais beth a ddywedodd y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd yn fy enw, gan ddywedyd, Breuddwydiais, breuddwydiais. 26 Pa hyd y bydd hyn yng nghalon y proffwydi sydd yn proffwydo celwydd? ie, proffwydi hudoliaeth eu calon eu hunain ydynt. 27 Y rhai sydd yn meddwl peri i’m pobl anghofio fy enw trwy eu breuddwydion a fynegant bob un i’w gymydog; fel yr anghofiodd eu tadau fy enw, er mwyn Baal. 28 Y proffwyd sydd â breuddwyd ganddo, myneged freuddwyd; a’r hwn y mae ganddo fy ngair, llefared fy ngair mewn gwirionedd: beth yw yr us wrth y gwenith? medd yr Arglwydd. 29 Onid yw fy ngair i megis tân? medd yr Arglwydd; ac fel gordd yn dryllio’r graig? 30 Am hynny wele fi yn erbyn y proffwydi, medd yr Arglwydd, y rhai sydd yn lladrata fy ngeiriau, bob un oddi ar ei gymydog. 31 Wele fi yn erbyn y proffwydi, medd yr Arglwydd, y rhai a lyfnhânt eu tafodau, ac a ddywedant, Efe a ddywedodd. 32 Wele fi yn erbyn y rhai a broffwydant freuddwydion celwyddog, medd yr Arglwydd, ac a’u mynegant, ac a hudant fy mhobl â’u celwyddau, ac â’u gwagedd, a mi heb eu gyrru hwynt, ac heb orchymyn iddynt: am hynny ni wnânt ddim lles i’r bobl hyn, medd yr Arglwydd.

33 A phan ofynno y bobl hyn, neu y proffwyd, neu yr offeiriad, i ti, gan ddywedyd, Beth yw baich yr Arglwydd? yna y dywedi wrthynt, Pa faich? eich gwrthod a wnaf, medd yr Arglwydd. 34 A’r proffwyd, a’r offeiriad, a’r bobl, y rhai a ddywedo, Baich yr Arglwydd, myfi a ymwelaf â’r gŵr hwnnw, ac â’i dŷ. 35 Fel hyn y dywedwch bob un wrth ei gymydog, a phob un wrth ei frawd, Beth a atebodd yr Arglwydd? a pha beth a lefarodd yr Arglwydd? 36 Ond am faich yr Arglwydd na wnewch goffa mwyach; canys baich i bawb fydd ei air ei hun: oherwydd chwychwi a wyrasoch eiriau y Duw byw, Arglwydd y lluoedd, ein Duw ni. 37 Fel hyn y dywedi wrth y proffwyd, Pa ateb a roddodd yr Arglwydd i ti? a pha beth a lefarodd yr Arglwydd? 38 Ond gan eich bod yn dywedyd, Baich yr Arglwydd; am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Am i chwi ddywedyd y gair hwn, Baich yr Arglwydd, a mi wedi anfon atoch, gan ddywedyd, Na ddywedwch, Baich yr Arglwydd: 39 Am hynny wele, myfi a’ch llwyr anghofiaf chwi, ac mi a’ch gadawaf chwi, a’r ddinas yr hon a roddais i chwi ac i’ch tadau, ac a’ch bwriaf allan o’m golwg. 40 A mi a roddaf arnoch warthrudd tragwyddol, a gwaradwydd tragywydd, yr hwn nid anghofir.