
Jeremeia 17 Beibl William Morgan (BWM)17 Pechod Jwda a ysgrifennwyd â phin o haearn, ag ewin o adamant y cerfiwyd ef ar lech eu calon, ac ar gyrn eich allorau; 2 Gan fod eu meibion yn cofio eu hallorau a’u llwyni wrth y pren deiliog ar y bryniau uchel. 3 O fy mynydd yn y maes, dy olud a’th holl drysorau di a roddaf yn anrhaith, a’th uchelfeydd i bechod, trwy dy holl derfynau. 4 Ti a adewir hefyd dy hunan, heb dy etifeddiaeth a roddais i ti; a mi a wnaf i ti wasanaethu dy elynion mewn tir nid adwaenost: canys cyneuasoch dân yn fy nig, yr hwn a lysg byth. 5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Melltigedig fyddo y gŵr a hydero mewn dyn, ac a wnelo gnawd yn fraich iddo, a’r hwn y cilio ei galon oddi wrth yr Arglwydd. 6 Canys efe a fydd fel y grug yn y diffeithwch, ac ni wêl pan ddêl daioni; eithr efe a gyfanhedda boethfannau yn yr anialwch, mewn tir hallt ac anghyfanheddol. 7 Bendigedig yw y gŵr a ymddiriedo yn yr Arglwydd, ac y byddo yr Arglwydd yn hyder iddo. 8 Canys efe a fydd megis pren wedi ei blannu wrth y dyfroedd, ac a estyn ei wraidd wrth yr afon, ac ni ŵyr oddi wrth ddyfod gwres; ei ddeilen fydd ir, ac ar flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid â ffrwytho. 9 Y galon sydd fwy ei thwyll na dim, a drwg ddiobaith ydyw; pwy a’i hedwyn? 10 Myfi yr Arglwydd sydd yn chwilio’r galon, yn profi ’r arennau, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd. 11 Fel petris yn eistedd, ac heb ddeor, yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng: yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd. 12 Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o’r dechreuad, yw lle ein cysegr ni. 13 O Arglwydd, gobaith Israel, y rhai oll a’th wrthodant a waradwyddir, ysgrifennir yn y ddaear y rhai a giliant oddi wrthyf, am iddynt adael yr Arglwydd, ffynnon y dyfroedd byw. 14 Iachâ fi, O Arglwydd, a mi a iacheir; achub fi, a mi a achubir: canys tydi yw fy moliant. 15 Wele hwynt yn dywedyd wrthyf, Pa le y mae gair yr Arglwydd? deued bellach. 16 Ond myfi ni phrysurais rhag bod yn fugail ar dy ôl di: ac ni ddymunais y dydd blin, ti a’i gwyddost: yr oedd yr hyn a ddaeth o’m gwefusau yn uniawn ger dy fron di. 17 Na fydd yn ddychryn i mi; ti yw fy ngobaith yn nydd y drygfyd. 18 Gwaradwydder fy erlidwyr, ac na’m gwaradwydder i; brawycher hwynt, ac na’m brawycher i: dwg arnynt ddydd drwg, a dryllia hwynt â drylliad dauddyblyg. 19 Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cerdda, a saf ym mhorth meibion y bobl, trwy yr hwn yr â brenhinoedd Jwda i mewn, a thrwy yr hwn y deuant allan, ac yn holl byrth Jerwsalem; 20 A dywed wrthynt, Gwrandewch air yr Arglwydd, brenhinoedd Jwda, a holl Jwda, a holl breswylwyr Jerwsalem, y rhai a ddeuwch trwy y pyrth hyn: 21 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Disgwyliwch ar eich eneidiau, ac na ddygwch faich ar y dydd Saboth, ac na ddygwch ef i mewn trwy byrth Jerwsalem; 22 Ac na ddygwch faich allan o’ch tai ar y dydd Saboth, ac na wnewch ddim gwaith; eithr sancteiddiwch y dydd Saboth, fel y gorchmynnais i’ch tadau. 23 Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust; eithr caledasant eu gwarrau rhag gwrando, a rhag derbyn addysg. 24 Er hynny os dyfal wrandewch arnaf, medd yr Arglwydd, heb ddwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Saboth, ond sancteiddio y dydd Saboth, heb wneuthur dim gwaith arno: 25 Yna y daw trwy byrth y ddinas hon, frenhinoedd a thywysogion yn eistedd ar orsedd Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, hwy a’u tywysogion, gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem; a’r ddinas hon a gyfanheddir byth. 26 Ac o ddinasoedd Jwda, ac o amgylchoedd Jerwsalem, ac o wlad Benjamin, ac o’r gwastadedd, ac o’r mynydd, ac o’r deau, y daw rhai yn dwyn poethoffrymau, ac aberthau, a bwyd‐offrymau, a thus, ac yn dwyn aberthau moliant i dŷ yr Arglwydd. 27 Ond os chwi ni wrendy arnaf, i sancteiddio y dydd Saboth, heb ddwyn baich, wrth ddyfod i byrth Jerwsalem, ar y dydd Saboth: yna mi a gyneuaf dân yn ei phyrth hi, ac efe a ysa balasau Jerwsalem, ac nis diffoddir.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
For the best Bible Gateway experience, upgrade to Bible Gateway Plus. For less than the cost of a latte each month, you'll gain access to a vast digital Bible study library and reduced banner ads to minimize distractions from God's Word. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.