Menu
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
account
Start your day in Scripture. Get the Verse of the Day by email.
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo
We’ve made some updates. Have feedback?
  • Read
    • Reading Plans
    • Advanced Search
    • Available Versions
    • Audio Bibles
  • Study
    • Scripture Engagement
    • More Resources
  • News
  • Explore
    • Newsletters
    • Devotionals
    • Bible Gateway App
    • Bible Audio App
    • Take a Tour
  • Store
    • Bibles
    • Deals
    • More
  • Bible Gateway Plus
BWM
Version
Bible Books Bible Books
BWM
Version
Read
Study
News
Explore
Store
Bible Gateway Plus
Light Mode Dark Mode
Font Size
Log In show menu
Previous Next
Print PrintSettingsSettingsShare ShareParallelParallelExpandExpandCollapse

Jeremeia 39  Beibl William Morgan

39 Yn y nawfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, ar y degfed mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a warchaeasant arni. 2 Yn yr unfed flwyddyn ar ddeg i Sedeceia, yn y pedwerydd mis, ar y nawfed dydd o’r mis, y torrwyd y ddinas. 3 A holl dywysogion brenin Babilon a ddaethant i mewn, ac a eisteddasant yn y porth canol, sef Nergal‐sareser, Samgar-nebo, Sarsechim, Rabsaris, Nergal‐sareser, Rabmag, a holl dywysogion eraill brenin Babilon.

4 A phan welodd Sedeceia brenin Jwda hwynt, a’r holl ryfelwyr, hwy a ffoesant, ac a aethant allan o’r ddinas liw nos, trwy ffordd gardd y brenin, i’r porth rhwng y ddau fur: ac efe a aeth allan tua’r anialwch. 5 A llu y Caldeaid a erlidiasant ar eu hôl hwynt, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, ac a’i daliasant ef, ac a’i dygasant at Nebuchodonosor brenin Babilon, i Ribla yng ngwlad Hamath; lle y rhoddodd efe farn arno. 6 Yna brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yn Ribla o flaen ei lygaid ef: brenin Babilon hefyd a laddodd holl bendefigion Jwda. 7 Ac efe a dynnodd lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymodd ef â chadwynau i’w ddwyn i Babilon.

8 A’r Caldeaid a losgasant dŷ y brenin a thai y bobl, â thân; a hwy a ddrylliasant furiau Jerwsalem. 9 Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd i Babilon weddill y bobl y rhai a adawsid yn y ddinas, a’r encilwyr y rhai a giliasent ato ef, ynghyd â gweddill y bobl y rhai a adawsid. 10 A Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd o dlodion y bobl, y rhai nid oedd dim ganddynt, yng ngwlad Jwda, ac efe a roddodd iddynt winllannoedd a meysydd y pryd hwnnw.

11 A Nebuchodonosor brenin Babilon a roddodd orchymyn am Jeremeia i Nebusaradan pennaeth y milwyr, gan ddywedyd, 12 Cymer ef, a bwrw olwg arno, ac na wna iddo ddim niwed; ond megis y dywedo efe wrthyt ti, felly gwna iddo. 13 Felly Nebusaradan pennaeth y milwyr a anfonodd, Nebusasban hefyd, Rabsaris, a Nergal‐sareser, Rabmag, a holl benaethiaid brenin Babilon; 14 Ie, hwy a anfonasant, ac a gymerasant Jeremeia o gyntedd y carchardy, ac a’i rhoddasant ef at Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan, i’w ddwyn adref: felly efe a drigodd ymysg y bobl.

15 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, pan oedd efe wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, gan ddywedyd, 16 Dos, a dywed i Ebedmelech yr Ethiopiad, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a baraf i’m geiriau ddyfod yn erbyn y ddinas hon er niwed, ac nid er lles, a hwy a gwblheir o flaen dy wyneb y dwthwn hwnnw. 17 Ond myfi a’th waredaf di y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, ac ni’th roddir yn llaw y dynion yr ydwyt ti yn ofni rhagddynt. 18 Canys gan achub mi a’th achubaf, ac ni syrthi trwy y cleddyf, eithr bydd dy einioes yn ysglyfaeth i ti, am i ti ymddiried ynof fi, medd yr Arglwydd.

Next
Jeremeia 38
Jeremeia 40
Next
dropdown
Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.

Bible Society
Bible Gateway Plus logo
Bible Gateway logo

Font Size

Font Size

Dark Mode

Light Mode Dark Mode

About

  • About
  • Learn About the Bible
  • Statement of Faith
  • Mobile App
  • Store
  • Blog
  • Newsroom
  • Support Us

Help

  • FAQs
  • Tutorials
  • Use Bible Gateway on Your Site
  • Advertise with us
  • Contact us
  • Privacy policy
  • California Privacy Rights
  • Do Not Sell My Personal Information
  • Site: Terms of use
  • Widget: Terms of use

Our Network

  • FaithGateway
  • StudyGateway
  • ChurchSource
  • HarperCollins Christian Publishing
  • Grupo Nelson
  • Editorial Vida
  • Thomas Nelson
  • WestBow Press
  • Zondervan
  • MasterLectures

Social

  • Facebook
  • Instagram
  • Pinterest
  • TikTok
  • X
  • YouTube

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway
Sign Up for Bible Gateway: News & Knowledge
Get weekly Bible news, info, reflections, and deals in your inbox.

By submitting your email address, you understand that you will receive email communications from Bible Gateway, operated by HarperCollins Christian Publishing, 501 Nelson Pl, Nashville, TN 37214 USA, including commercial communications and messages from partners of Bible Gateway. You may unsubscribe from Bible Gateway’s emails at any time. If you have any questions, please review our Privacy Policy or email us at privacy@biblegateway.com.

Preferences

  • Versión en español
  • Preferences
  • Classic Bible Gateway