Add parallel Print Page Options

33 Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth at Jeremeia yr ail waith, ac efe eto yn garcharor yng nghyntedd y carchardy, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd yr hwn a’i gwnaeth, yr Arglwydd yr hwn a’i lluniodd i’w sicrhau, yr Arglwydd yw ei enw: Galw arnaf, a mi a’th atebaf, ac a ddangosaf i ti bethau mawrion, a chedyrn, y rhai nis gwyddost. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, am dai y ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y rhai a ddinistriwyd â pheiriannau rhyfel, ac â chleddyf; Y maent yn dyfod i ymladd â’r Caldeaid, ond i’w llenwi â chelanedd dynion, y rhai a leddais yn fy llid a’m digofaint, ac am i mi guddio fy wyneb oddi wrth y ddinas hon am eu holl ddrygioni hwynt. Wele, myfi a ddygaf iddi hi iechyd a meddyginiaeth, a mi a’u meddyginiaethaf hwynt, ac a ddatguddiaf iddynt amlder o heddwch a gwirionedd. A mi a ddychwelaf gaethiwed Jwda, a chaethiwed Israel, a mi a’u hadeiladaf hwynt megis yn y dechreuad. A mi a’u puraf hwynt oddi wrth eu holl anwiredd a bechasant i’m herbyn; a mi a faddeuaf iddynt eu holl bechodau trwy y rhai y pechasant i’m herbyn, a thrwy y rhai y troseddasant yn fy erbyn.

A hyn fydd i mi yn enw llawenydd, yn glod ac yn ogoniant, o flaen holl genhedloedd y ddaear, y rhai a glywant yr holl ddaioni yr ydwyf fi yn ei wneuthur iddynt: a hwythau a ofnant ac a grynant am yr holl ddaioni a’r holl lwyddiant yr ydwyf fi yn eu gwneuthur i’r ddinas hon. 10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Clywir eto yn y lle hwn, (am yr hwn y dywedwch, Anialwch yw efe, heb ddyn ac heb anifail, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, y rhai a wnaed yn anghyfannedd, heb ddyn, ac heb breswylwr, ac heb anifail,) 11 Llef gorfoledd a llef llawenydd, llef y priodfab a llef y briodferch, llef rhai yn dywedyd, Molwch Arglwydd y lluoedd; oherwydd daionus yw yr Arglwydd, oblegid ei drugaredd a bery yn dragywydd; llef rhai yn dwyn offrwm moliant i dŷ yr Arglwydd: canys mi a ddychwelaf gaethiwed y wlad, megis yn y dechreuad, medd yr Arglwydd. 12 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Bydd eto yn y lle yma, yr hwn sydd anghyfanheddol heb ddyn ac heb anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, drigfa bugeiliaid yn corlannu y praidd. 13 Yn ninasoedd y mynydd, yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau, ac yng ngwlad Benjamin, ac yn amgylchoedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, yr â defaid eto, dan law yr hwn sydd yn eu rhifo, medd yr Arglwydd. 14 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, fel y cyflawnwyf y peth daionus a addewais i dŷ Israel, ac i dŷ Jwda.

15 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, y paraf i Flaguryn cyfiawnder flaguro i Dafydd; ac efe a wna farn a chyfiawnder yn y tir. 16 Yn y dyddiau hynny Jwda a waredir, a Jerwsalem a breswylia yn ddiogel; a hwn yw yr enw y gelwir ef, Yr Arglwydd ein cyfiawnder.

17 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ni phalla i Dafydd ŵr yn eistedd ar frenhinfainc tŷ Israel. 18 Ac ni phalla i’r offeiriaid y Lefiaid ŵr ger fy mron i, i offrymu poethoffrwm, ac i offrymu bwyd‐offrwm, ac i wneuthur aberth, yn dragywydd.

19 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd, 20 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Os gellwch ddiddymu fy nghyfamod â’r dydd, a’m cyfamod â’r nos, ac na byddo dydd a nos yn eu hamser; 21 Yna y diddymir fy nghyfamod â Dafydd fy ngwas, na byddo iddo fab yn teyrnasu ar ei deyrngadair ef, ac â’r Lefiaid yr offeiriaid fy ngweinidogion. 22 Megis na ellir cyfrif llu y nefoedd, ac na ellir mesur tywod y môr; felly myfi a amlhaf had Dafydd fy ngwas, a’r Lefiaid y rhai sydd yn gweini i mi. 23 Hefyd, gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd, 24 Oni weli di pa beth y mae y bobl hyn yn ei lefaru, gan ddywedyd, Y ddau deulu a ddewisodd yr Arglwydd, efe a’u gwrthododd hwynt? felly y dirmygasant fy mhobl, fel nad ydynt mwyach yn genedl yn eu golwg hwynt. 25 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Os fy nghyfamod â’r dydd ac â’r nos ni saif, ac oni osodais i ddefodau y nefoedd a’r ddaear: 26 Yna had Jacob a Dafydd fy ngwas a wrthodaf fi, fel na chymerwyf o’i had ef lywodraethwyr ar had Abraham, Isaac, a Jacob: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, ac a drugarhaf wrthynt.