Jeremeia 3
Beibl William Morgan
3 Hwy a ddywedant, O gyr gŵr ei wraig ymaith, a myned ohoni oddi wrtho ef, ac iddi fod yn eiddo gŵr arall, a ddychwel efe ati hi mwyach? oni lwyr halogir y tir hwnnw? ond ti a buteiniaist gyda chyfeillion lawer; eto dychwel ataf fi, medd yr Arglwydd. 2 Dyrchafa dy lygaid i’r lleoedd uchel, ac edrych pa le ni phuteiniaist. Ti a eisteddaist ar y ffyrdd iddynt hwy, megis Arabiad yn yr anialwch; ac a halogaist y tir â’th buteindra, ac â’th ddrygioni. 3 Am hynny yr ataliwyd y cafodydd, ac ni bu glaw diweddar; a thalcen puteinwraig oedd i ti; gwrthodaist gywilyddio. 4 Oni lefi di arnaf fi o hyn allan, Fy nhad, ti yw tywysog fy ieuenctid? 5 A ddeil efe ei ddig byth? a’i ceidw yn dragywydd? Wele, dywedaist a gwnaethost yr hyn oedd ddrwg hyd y gellaist.
6 A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf yn amser Joseia y brenin, A welaist ti hyn a wnaeth Israel wrthnysig? Hi a aeth i bob mynydd uchel, a than bob pren deiliog, ac a buteiniodd yno. 7 A mi a ddywedais, wedi iddi wneuthur hyn i gyd, Dychwel ataf fi. Ond ni ddychwelodd. A Jwda ei chwaer anffyddlon hi a welodd hynny. 8 A gwelais yn dda, am yr achosion oll y puteiniodd Israel wrthnysig, ollwng ohonof hi ymaith, ac a roddais iddi ei llythyr ysgar: er hyn ni ofnodd Jwda ei chwaer anffyddlon; eithr aeth a phuteiniodd hithau hefyd. 9 A chan ysgafnder ei phuteindra yr halogodd hi y tir; canys gyda’r maen a’r pren y puteiniodd hi. 10 Ac er hyn oll hefyd ni ddychwelodd Jwda ei chwaer anffyddlon ataf fi â’i holl galon, eithr mewn rhagrith, medd yr Arglwydd. 11 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Israel wrthnysig a’i cyfiawnhaodd ei hun rhagor Jwda anffyddlon.
12 Cerdda, a chyhoedda y geiriau hyn tua’r gogledd, a dywed, Ti Israel wrthnysig, dychwel, medd yr Arglwydd, ac ni adawaf i’m llid syrthio arnoch: canys trugarog ydwyf fi, medd yr Arglwydd, ni ddaliaf lid yn dragywydd. 13 Yn unig cydnebydd dy anwiredd, droseddu ohonot yn erbyn yr Arglwydd dy Dduw, a gwasgaru ohonot dy ffyrdd i ddieithriaid dan bob pren deiliog, ac ni wrandawech ar fy llef, medd yr Arglwydd. 14 Trowch, chwi blant gwrthnysig, medd yr Arglwydd; canys myfi a’ch priodais chwi: a mi a’ch cymeraf chwi, un o ddinas, a dau o deulu, ac a’ch dygaf chwi i Seion: 15 Ac a roddaf i chwi fugeiliaid wrth fodd fy nghalon, y rhai a’ch porthant chwi â gwybodaeth, ac â deall. 16 Ac wedi darfod i chwi amlhau a chynyddu ar y ddaear, yn y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, ni ddywedant mwy, Arch cyfamod yr Arglwydd; ac ni feddwl calon amdani, ac ni chofir hi; nid ymwelant â hi chwaith, ac ni wneir hynny mwy. 17 Yn yr amser hwnnw y galwant Jerwsalem yn orseddfa yr Arglwydd; ac y cesglir ati yr holl genhedloedd, at enw yr Arglwydd, i Jerwsalem: ac ni rodiant mwy yn ôl cildynrwydd eu calon ddrygionus. 18 Yn y dyddiau hynny y rhodia tŷ Jwda gyda thŷ Israel, a hwy a ddeuant ynghyd, o dir y gogledd, i’r tir a roddais i yn etifeddiaeth i’ch tadau chwi. 19 Ond mi a ddywedais, Pa fodd y’th osodaf ymhlith y plant, ac y rhoddaf i ti dir dymunol, sef etifeddiaeth ardderchog lluoedd y cenhedloedd? ac a ddywedais, Ti a elwi arnaf fi, Fy nhad, ac ni throi ymaith oddi ar fy ôl i.
20 Yn ddiau fel yr anffyddlona gwraig oddi wrth ei chyfaill; felly, tŷ Israel, y buoch anffyddlon i mi, medd yr Arglwydd. 21 Llef a glywyd yn y mannau uchel, wylofain a dymuniadau meibion Israel: canys gwyrasant eu ffordd, ac anghofiasant yr Arglwydd eu Duw. 22 Ymchwelwch, feibion gwrthnysig, a mi a iachâf eich gwrthnysigrwydd chwi. Wele ni yn dyfod atat ti; oblegid ti yw yr Arglwydd ein Duw. 23 Diau fod yn ofer ymddiried am help o’r bryniau, ac o liaws y mynyddoedd: diau fod iachawdwriaeth Israel yn yr Arglwydd ein Duw ni. 24 Canys gwarth a ysodd lafur ein tadau o’n hieuenctid; eu defaid a’u gwartheg, eu meibion a’u merched. 25 Gorwedd yr ydym yn ein cywilydd, a’n gwarth a’n todd ni: canys yn erbyn yr Arglwydd ein Duw y pechasom, nyni a’n tadau, o’n hieuenctid hyd y dydd heddiw, ac ni wrandawsom ar lais yr Arglwydd ein Duw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.