Jeremeia 19
Beibl William Morgan
19 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dos, a chais ystên bridd y crochenydd, a chymer o henuriaid y bobl ac o henuriaid yr offeiriaid, 2 A dos allan i ddyffryn mab Hinnom, yr hwn sydd wrth ddrws porth y dwyrain, a chyhoedda yno y geiriau a ddywedwyf wrthyt; 3 A dywed, Brenhinoedd Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem, clywch air yr Arglwydd: Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar y lle hwn ddrwg, yr hwn pwy bynnag a’i clywo, ei glustiau a ferwinant. 4 Am iddynt fy ngwrthod i, a dieithrio y lle hwn, ac arogldarthu ynddo i dduwiau dieithr, y rhai nid adwaenent hwy, na’u tadau, na brenhinoedd Jwda, a llenwi ohonynt y lle hwn o waed gwirioniaid; 5 Adeiladasant hefyd uchelfeydd Baal, i losgi eu meibion â thân yn boethoffrymau i Baal; yr hyn ni orchmynnais, ac ni ddywedais, ac ni feddyliodd fy nghalon: 6 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na elwir y lle hwn mwyach Toffet, na Dyffryn mab Hinnom, ond Dyffryn y lladdfa. 7 A mi a wnaf yn ofer gyngor Jwda a Jerwsalem yn y lle hwn, a pharaf iddynt syrthio gan y cleddyf o flaen eu gelynion, a thrwy law y rhai a geisiant eu heinioes hwy: rhoddaf hefyd eu celaneddau hwynt yn fwyd i ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear. 8 A mi a wnaf y ddinas hon yn anghyfannedd, ac yn ffiaidd; pob un a elo heibio iddi a synna ac a chwibana, oherwydd ei holl ddialeddau hi. 9 A mi a baraf iddynt fwyta cnawd eu meibion, a chnawd eu merched, bwytânt hefyd bob un gnawd ei gyfaill, yn y gwarchae a’r cyfyngder, â’r hwn y cyfynga eu gelynion, a’r rhai sydd yn ceisio eu heinioes, arnynt. 10 Yna y torri yr ystên yng ngŵydd y gwŷr a êl gyda thi, 11 Ac y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Yn y modd hwn y drylliaf y bobl hyn, a’r ddinas hon, fel y dryllia un lestr pridd, yr hwn ni ellir ei gyfannu mwyach; ac yn Toffet y cleddir hwynt, o eisiau lle i gladdu. 12 Fel hyn y gwnaf i’r lle hwn, medd yr Arglwydd, ac i’r rhai sydd yn trigo ynddo; a mi a wnaf y ddinas hon megis Toffet. 13 A thai Jerwsalem, a thai brenhinoedd Jwda, a fyddant halogedig fel mangre Toffet: oherwydd yr holl dai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i holl lu y nefoedd, ac y tywalltasant ddiod‐offrymau i dduwiau dieithr. 14 Yna y daeth Jeremeia o Toffet, lle yr anfonasai yr Arglwydd ef i broffwydo, ac a safodd yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrth yr holl bobl, 15 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar y ddinas hon, ac ar ei holl drefydd, yr holl ddrygau a leferais i’w herbyn, am galedu ohonynt eu gwarrau, rhag gwrando fy ngeiriau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.