Add parallel Print Page Options

A’r trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea: a mam yr Iesu oedd yno. A galwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas. A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes ganddynt mo’r gwin. Iesu a ddywedodd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, wraig? ni ddaeth fy awr i eto. Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaethwyr, Beth bynnag a ddywedo efe wrthych, gwnewch.

Read full chapter

12 Wedi hyn efe a aeth i waered i Gapernaum, efe, a’i fam, a’i frodyr, a’i ddisgyblion: ac yno nid arosasant nemor o ddyddiau.

Read full chapter

42 A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw Iesu mab Joseff, tad a mam yr hwn a adwaenom ni? pa fodd gan hynny y mae efe yn dywedyd, O’r nef y disgynnais?

Read full chapter

25 Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Cleoffas, a Mair Magdalen. 26 Yr Iesu gan hynny, pan welodd ei fam, a’r disgybl yr hwn a garai efe yn sefyll gerllaw, a ddywedodd wrth ei fam, O wraig, wele dy fab. 27 Gwedi hynny y dywedodd wrth y disgybl, Wele dy fam. Ac o’r awr honno allan y cymerodd y disgybl hi i’w gartref.

Read full chapter