
Ioan 11 Beibl William Morgan (BWM)11 Ac yr oedd un yn glaf, Lasarus o Fethania, o dref Mair a’i chwaer Martha. 2 (A Mair ydoedd yr hon a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt, yr hon yr oedd ei brawd Lasarus yn glaf.) 3 Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae’r hwn sydd hoff gennyt ti, yn glaf. 4 A’r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw’r clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny. 5 A hoff oedd gan yr Iesu Martha, a’i chwaer, a Lasarus. 6 Pan glybu efe gan hynny ei fod ef yn glaf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod. 7 Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Awn i Jwdea drachefn. 8 Y disgyblion a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy labyddio di; ac a wyt ti yn myned yno drachefn? 9 Yr Iesu a atebodd, Onid oes deuddeg awr o’r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni’r byd hwn: 10 Ond os rhodia neb y nos, efe a dramgwydda, am nad oes goleuni ynddo. 11 Hyn a lefarodd efe: ac wedi hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno; ond yr wyf fi’n myned i’w ddihuno ef. 12 Yna ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae, efe a fydd iach. 13 Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hun cwsg yr oedd efe yn dywedyd. 14 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur, Bu farw Lasarus. 15 Ac y mae’n llawen gennyf nad oeddwn i yno, er eich mwyn chwi, fel y credoch; ond awn ato ef. 16 Yna y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd‐ddisgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gydag ef. 17 Yna yr Iesu wedi dyfod, a’i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd. 18 A Bethania oedd yn agos i Jerwsalem, ynghylch pymtheg ystad oddi wrthi: 19 A llawer o’r Iddewon a ddaethent a Martha a Mair, i’w cysuro hwy am eu brawd. 20 Yna Martha, cyn gynted ag y clybu hi fod yr Iesu yn dyfod, a aeth i’w gyfarfod ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ. 21 Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd. 22 Eithr mi a wn hefyd yr awron, pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw, y dyry Duw i ti. 23 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Atgyfodir dy frawd drachefn. 24 Dywedodd Martha wrtho, Myfi a wn yr atgyfodir ef yn yr atgyfodiad, y dydd diwethaf. 25 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw’r atgyfodiad, a’r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw: 26 A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti’n credu hyn? 27 Dywedodd hithau wrtho, Ydwyf, Arglwydd: yr wyf fi yn credu mai ti yw’r Crist, Mab Duw, yr hwn sydd yn dyfod i’r byd. 28 Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athro, ac y mae yn galw amdanat. 29 Cyn gynted ag y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth ato ef. 30 (A’r Iesu ni ddaethai eto i’r dref, ond yr oedd efe yn y man lle y cyfarfuasai Martha ag ef.) 31 Yna yr Iddewon y rhai oedd gyda hi yn y tŷ, ac yn ei chysuro hi, pan welsant Mair yn codi ar frys, ac yn myned allan, a’i canlynasant hi, gan ddywedyd, Y mae hi’n myned at y bedd, i wylo yno. 32 Yna Mair, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu, a’i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai fy mrawd farw. 33 Yr Iesu gan hynny, pan welodd hi yn wylo, a’r Iddewon y rhai a ddaethai gyda hi yn wylo, a riddfanodd yn yr ysbryd, ac a gynhyrfwyd; 34 Ac a ddywedodd, Pa le y dodasoch chwi ef? Hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, tyred a gwêl. 35 Yr Iesu a wylodd. 36 Am hynny y dywedodd yr Iddewon, Wele, fel yr oedd yn ei garu ef. 37 Eithr rhai ohonynt a ddywedasant, Oni allasai hwn, yr hwn a agorodd lygaid y dall, beri na buasai hwn farw chwaith? 38 Yna yr Iesu drachefn a riddfanodd ynddo’i hunan, ac a ddaeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen oedd wedi ei ddodi arno. 39 Yr Iesu a ddywedodd, Codwch ymaith y maen. Martha, chwaer yr hwn a fuasai farw, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi: herwydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod. 40 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Oni ddywedais i ti, pes credit, y cait ti weled gogoniant Duw? 41 Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod. A’r Iesu a gododd ei olwg i fyny, ac a ddywedodd, Y Tad, yr wyf yn diolch i ti am i ti wrando arnaf. 42 Ac myfi a wyddwn dy fod di yn fy ngwrando bob amser: eithr er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai tydi a’m hanfonaist i. 43 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a lefodd â llef uchel, Lasarus, tyred allan. 44 A’r hwn a fuasai farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a’i ddwylo mewn amdo: a’i wyneb oedd wedi ei rwymo â napgyn. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith. 45 Yna llawer o’r Iddewon, y rhai a ddaethent at Mair, ac a welsent y pethau a wnaethai yr Iesu, a gredasant ynddo ef. 46 Eithr rhai ohonynt a aethant ymaith at y Phariseaid, ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu. 47 Yna yr archoffeiriaid a’r Phariseaid a gasglasant gyngor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae’r dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion. 48 Os gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; ac fe a ddaw’r Rhufeiniaid, ac a ddifethant ein lle ni a’n cenedl hefyd. 49 A rhyw un ohonynt, Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi’n gwybod dim oll, 50 Nac yn ystyried, mai buddiol yw i ni, farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl. 51 Hyn ni ddywedodd efe ohono ei hun: eithr, ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, efe a broffwydodd y byddai’r Iesu farw dros y genedl; 52 Ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid. 53 Yna o’r dydd hwnnw allan y cyd-ymgyngorasant fel y lladdent ef. 54 Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ymysg yr Iddewon; ond efe a aeth oddi yno i’r wlad yn agos i’r anialwch, i ddinas a elwir Effraim, ac a arhosodd yno gyda’i ddisgyblion. 55 A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a llawer a aethant o’r wlad i fyny i Jerwsalem o flaen y pasg, i’w glanhau eu hunain. 56 Yna y ceisiasant yr Iesu; a dywedasant wrth ei gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y deml, Beth a dybygwch chwi, gan na ddaeth efe i’r ŵyl? 57 A’r archoffeiriaid a’r Phariseaid a roesant orchymyn, os gwyddai neb pa le yr oedd efe, ar fynegi ohono, fel y gallent ei ddal ef.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to choose a monthly or yearly subscription, and then enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
Upgrade, and get the most out of your new account. An integrated digital Bible study library - including complete notes from the NIV Study Bible and the NKJV MacArthur Study Bible - is just a step away! Try it free for 30 days.
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.