
Iago 2 Beibl William Morgan (BWM)2 Fy mrodyr, na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Iesu Grist, sef Arglwydd y gogoniant, gyda derbyn wyneb. 2 Oblegid os daw i mewn i’ch cynulleidfa chwi ŵr â modrwy aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd un tlawd mewn dillad gwael; 3 Ac edrych ohonoch ar yr hwn sydd yn gwisgo’r dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di yma mewn lle da; a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd yma islaw fy ystôl droed i: 4 Onid ydych chwi dueddol ynoch eich hunain? ac onid aethoch yn farnwyr meddyliau drwg? 5 Gwrandewch, fy mrodyr annwyl; Oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas yr hon a addawodd efe i’r rhai sydd yn ei garu ef? 6 Eithr chwithau a amharchasoch y tlawd. Onid yw’r cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi, ac yn eich tynnu gerbron brawdleoedd? 7 Onid ydynt hwy’n cablu’r enw rhagorol, yr hwn a elwir arnoch chwi? 8 Os cyflawni yr ydych y gyfraith frenhinol yn ôl yr ysgrythur, Câr dy gymydog fel ti dy hun; da yr ydych yn gwneuthur: 9 Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argyhoeddi gan y gyfraith megis troseddwyr. 10 Canys pwy bynnag a gadwo’r gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o’r cwbl. 11 Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, eto a leddi, yr wyt ti yn troseddu’r gyfraith. 12 Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth gyfraith rhyddid. 13 Canys barn ddidrugaredd fydd i’r hwn ni wnaeth drugaredd; ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn. 14 Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed neb fod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei gadw ef? 15 Eithr os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisiau beunyddiol ymborth, 16 A dywedyd o un ohonoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymddigonwch; eto heb roddi iddynt angenrheidiau’r corff; pa les fydd? 17 Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw, a hi yn unig. 18 Eithr rhyw un a ddywed, Tydi ffydd sydd gennyt, minnau gweithredoedd sydd gennyf: dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau wrth fy ngweithredoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd innau. 19 Credu yr wyt ti mai un Duw sydd; da yr wyt ti yn gwneuthur: y mae’r cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu. 20 Eithr a fynni di wybod, O ddyn ofer, am ffydd heb weithredoedd, mai marw yw? 21 Abraham ein tad ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymodd efe Isaac ei fab ar yr allor? 22 Ti a weli fod ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd fod ffydd wedi ei pherffeithio. 23 A chyflawnwyd yr ysgrythur yr hon sydd yn dywedyd, Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder: a Chyfaill Duw y galwyd ef. 24 Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dyn, ac nid o ffydd yn unig. 25 Yr un ffunud hefyd, Rahab y butain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan dderbyniodd hi’r cenhadau, a’u danfon ymaith ffordd arall? 26 Canys megis y mae’r corff heb yr ysbryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
Now that you've created a Bible Gateway account, upgrade to Bible Gateway Plus: the ultimate online Bible reading & study experience! Bible Gateway Plus equips you to answer the toughest questions about faith, God, and the Bible with access to a vast digital Bible study library. And it's all integrated seamlessly into your Bible Gateway experience. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.