Add parallel Print Page Options

12 Oblegid hynny ninnau hefyd, gan fod cymaint cwmwl o dystion wedi ei osod o’n hamgylch, gan roi heibio bob pwys, a’r pechod sydd barod i’n hamgylchu, trwy amynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o’n blaen ni; Gan edrych ar Iesu, Pen‐tywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni; yr hwn, yn lle’r llawenydd a osodwyd iddo, a ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw. Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid; fel na flinoch, ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau. Ni wrthwynebasoch eto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod. A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor, yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan y’th argyhoedder ganddo: Canys y neb y mae’r Arglwydd yn ei garu, y mae’n ei geryddu; ac yn fflangellu pob mab a dderbynio. Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tuag atoch megis tuag at feibion: canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu? Eithr os heb gerydd yr ydych, o’r hwn y mae pawb yn gyfrannog; yna bastardiaid ydych, ac nid meibion. Heblaw hynny, ni a gawsom dadau ein cnawd i’n ceryddu, ac a’u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd, a byw? 10 Canys hwynt‐hwy yn wir dros ychydig ddyddiau a’n ceryddent fel y gwelent hwy yn dda; eithr hwn er llesâd i ni, fel y byddem gyfranogion o’i sancteiddrwydd ef. 11 Eto ni welir un cerydd dros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd: ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i’r rhai sydd wedi eu cynefino ag ef. 12 Oherwydd paham cyfodwch i fyny’r dwylo a laesasant, a’r gliniau a ymollyngasant. 13 A gwnewch lwybrau union i’ch traed; fel na throer y cloff allan o’r ffordd, ond yr iachaer efe yn hytrach. 14 Dilynwch heddwch â phawb, a sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd: 15 Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddi wrth ras Duw; rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny, ac yn peri blinder, a thrwy hwnnw llygru llawer; 16 Na bo un puteiniwr, neu halogedig, megis Esau, yr hwn am un saig o fwyd a werthodd ei enedigaeth‐fraint. 17 Canys chwi a wyddoch ddarfod wedi hynny hefyd ei wrthod ef, pan oedd efe yn ewyllysio etifeddu’r fendith: oblegid ni chafodd efe le i edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer geisio hi. 18 Canys ni ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy sydd yn llosgi gan dân, a chwmwl, a thywyllwch, a thymestl, 19 A sain utgorn, a llef geiriau; yr hon pwy bynnag a’i clywsant, a ddeisyfasant na chwanegid yr ymadrodd wrthynt: 20 (Oblegid ni allent hwy oddef yr hyn a orchmynasid; Ac os bwystfil a gyffyrddai â’r mynydd, efe a labyddir, neu a wenir â phicell. 21 Ac mor ofnadwy oedd y golwg, ag y dywedodd Moses, Yr ydwyf yn ofni ac yn crynu.) 22 Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion, ac i ddinas y Duw byw, y Jerwsalem nefol, ac at fyrddiwn o angylion, 23 I gymanfa a chynulleidfa’r rhai cyntaf‐anedig, y rhai a ysgrifennwyd yn y nefoedd, ac at Dduw, Barnwr pawb, ac at ysbrydoedd y cyfiawn y rhai a berffeithiwyd, 24 Ac at Iesu, Cyfryngwr y testament newydd, a gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell na’r eiddo Abel. 25 Edrychwch na wrthodoch yr hwn sydd yn llefaru. Oblegid oni ddihangodd y rhai a wrthodasant yr hwn oedd yn llefaru ar y ddaear, mwy o lawer ni ddihangwn ni, y rhai ydym yn troi ymaith oddi wrth yr hwn sydd yn llefaru o’r nef: 26 Llef yr hwn y pryd hwnnw a ysgydwodd y ddaear: ac yn awr a addawodd, gan ddywedyd, Eto unwaith yr wyf yn cynhyrfu nid yn unig y ddaear, ond y nef hefyd. 27 A’r Eto unwaith hynny, sydd yn hysbysu symudiad y pethau a ysgydwir, megis pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso’r pethau nid ysgydwir. 28 Oherwydd paham, gan ein bod ni yn derbyn teyrnas ddi‐sigl, bydded gennym ras, trwy’r hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn: 29 Oblegid ein Duw ni sydd dân ysol.