Add parallel Print Page Options

Y baich a welodd y proffwyd Habacuc. Pa hyd, Arglwydd, y gwaeddaf, ac nis gwrandewi! y bloeddiaf arnat rhag trais, ac nid achubi! Paham y gwnei i mi weled anwiredd, ac y peri i mi edrych ar flinder? anrhaith a thrais sydd o’m blaen i; ac y mae a gyfyd ddadl ac ymryson. Am hynny yr oedir cyfraith, ac nid â barn allan byth: am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn; am hynny cam farn a â allan.

Gwelwch ymysg y cenhedloedd, ac edrychwch, rhyfeddwch yn aruthrol: canys gweithredaf weithred yn eich dyddiau, ni choeliwch er ei mynegi i chwi. Canys wele fi yn codi y Caldeaid, cenedl chwerw a phrysur, yr hon a rodia ar hyd lled y tir, i feddiannu cyfanheddoedd nid yw eiddynt. Y maent i’w hofni ac i’w harswydo: ohonynt eu hun y daw allan eu barn a’u rhagoriaeth. A’u meirch sydd fuanach na’r llewpardiaid, a llymach ydynt na bleiddiau yr hwyr: eu marchogion hefyd a ymdaenant, a’u marchogion a ddeuant o bell; ehedant fel eryr yn prysuro at fwyd. Hwy a ddeuant oll i dreisio; ar gyfer eu hwyneb y bydd gwynt y dwyrain, a hwy a gasglant gaethion fel y tywod. 10 A hwy a watwarant frenhinoedd, a thywysogion a fyddant watwargerdd iddynt: hwy a watwarant yr holl gestyll, ac a gasglant lwch, ac a’i goresgynnant. 11 Yna y newidia ei feddwl, ac yr â trosodd, ac a drosedda, gan ddiolch am ei rym yma i’w dduw ei hun.

12 Onid wyt ti er tragwyddoldeb, O Arglwydd fy Nuw, fy Sanctaidd? ni byddwn feirw. O Arglwydd, ti a’u gosodaist hwy i farn, ac a’u sicrheaist, O Dduw, i gosbedigaeth. 13 Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar anwiredd: paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid, ac y tewi pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei hun? 14 Ac y gwnei ddynion fel pysgod y môr, fel yr ymlusgiaid heb lywydd arnynt? 15 Cyfodant hwynt oll â’r bach; casglant hwynt yn eu rhwyd, a chynullant hwynt yn eu ballegrwyd: am hynny hwy a lawenychant ac a ymddigrifant. 16 Am hynny yr aberthant i’w rhwyd, ac y llosgant arogl-darth i’w ballegrwyd: canys trwyddynt hwy y mae eu rhan yn dew, a’u bwyd yn fras. 17 A gânt hwy gan hynny dywallt eu rhwyd, ac nad arbedont ladd y cenhedloedd yn wastadol?