
Genesis 5 Beibl William Morgan (BWM)5 Dyma lyfr cenedlaethau Adda: yn y dydd y creodd Duw ddyn, ar lun Duw y gwnaeth efe ef. 2 Yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt: ac efe a’u bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y crewyd hwynt. 3 Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant, ac a genhedlodd fab ar ei lun a’i ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth. 4 A dyddiau Adda, wedi iddo genhedlu Seth, oedd wyth gan mlynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched. 5 A holl ddyddiau Adda, y rhai y bu efe fyw, oedd naw can mlynedd a deng mlynedd ar hugain; ac efe a fu farw. 6 Seth hefyd a fu fyw bum mlynedd a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enos. 7 A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos, saith mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 8 A holl ddyddiau Seth oedd ddeuddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw. 9 Ac Enos a fu fyw ddeng mlynedd a phedwar ugain, ac a genhedlodd Cenan. 10 Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan, bymtheng mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 11 A holl ddyddiau Enos oedd bum mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw. 12 Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Mahalaleel. 13 A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 14 A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw. 15 A Mahalaleel a fu fyw bum mlynedd a thrigain mlynedd, ac a genhedlodd Jered. 16 A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedlu Jered, ddeng mlynedd ar hugain ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 17 A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth gan mlynedd; ac efe a fu farw. 18 A Jered a fu fyw ddwy flynedd a thrigain a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enoch. 19 A Jered a fu fyw wedi iddo genhedlu Enoch wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 20 A holl ddyddiau Jered oedd ddwy flynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw. 21 Enoch hefyd a fu fyw bum mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Methwsela. 22 Ac Enoch a rodiodd gyda Duw wedi iddo genhedlu Methwsela, dri chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 23 A holl ddyddiau Enoch oedd bum mlynedd a thrigain a thri chant o flynyddoedd. 24 A rhodiodd Enoch gyda Duw, ac ni welwyd ef; canys Duw a’i cymerodd ef. 25 Methwsela hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genhedlodd Lamech. 26 A Methwsela a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech, ddwy flynedd a phedwar ugain a saith gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 27 A holl ddyddiau Methwsela oedd naw mlynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw. 28 Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chan mlynedd, ac a genhedlodd fab; 29 Ac a alwodd ei enw ef Noa, gan ddywedyd, Hwn a’n cysura ni am ein gwaith, a llafur ein dwylo, oherwydd y ddaear yr hon a felltigodd yr Arglwydd. 30 A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noa, bymtheng mlynedd a phedwar ugain a phum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 31 A holl ddyddiau Lamech oedd ddwy flynedd ar bymtheg a thrigain a saith gan mlynedd; ac efe a fu farw. 32 A Noa ydoedd fab pum can mlwydd; a Noa a genhedlodd Sem, Cham, a Jaffeth.
Beibl William Morgan (BWM) William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992. |
Starting your free trial of Bible Gateway Plus is easy. You’re already logged in with your Bible Gateway account. The next step is to enter your payment information. Your credit card won’t be charged until the trial period is over. You can cancel anytime during the trial period.
Click the button below to continue.
You’ve already claimed your free trial of Bible Gateway Plus. To subscribe at our regular subscription rate of $3.99/month, click the button below.
It looks like you’re already subscribed to Bible Gateway Plus! To manage your subscription, visit your Bible Gateway account settings.
For the best Bible Gateway experience, upgrade to Bible Gateway Plus. For less than the cost of a latte each month, you'll gain access to a vast digital Bible study library and reduced banner ads to minimize distractions from God's Word. Try it free for 30 days!
Three easy steps to start your free trial subscription to Bible Gateway Plus.