Add parallel Print Page Options

Dyma lyfr cenedlaethau Adda: yn y dydd y creodd Duw ddyn, ar lun Duw y gwnaeth efe ef. Yn wryw ac yn fenyw y creodd efe hwynt: ac efe a’u bendithiodd hwynt, ac a alwodd eu henw hwynt Adda, ar y dydd y crewyd hwynt.

Ac Adda a fu fyw ddeng mlynedd ar hugain a chant, ac a genhedlodd fab ar ei lun a’i ddelw ei hun, ac a alwodd ei enw ef Seth. A dyddiau Adda, wedi iddo genhedlu Seth, oedd wyth gan mlynedd, ac efe a genhedlodd feibion a merched. A holl ddyddiau Adda, y rhai y bu efe fyw, oedd naw can mlynedd a deng mlynedd ar hugain; ac efe a fu farw.

Seth hefyd a fu fyw bum mlynedd a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enos. A Seth a fu fyw wedi iddo genhedlu Enos, saith mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. A holl ddyddiau Seth oedd ddeuddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.

Ac Enos a fu fyw ddeng mlynedd a phedwar ugain, ac a genhedlodd Cenan. 10 Ac Enos a fu fyw wedi iddo genhedlu Cenan, bymtheng mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 11 A holl ddyddiau Enos oedd bum mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.

12 Cenan hefyd a fu fyw ddeng mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Mahalaleel. 13 A bu Cenan fyw wedi iddo genhedlu Mahalaleel ddeugain mlynedd ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 14 A holl ddyddiau Cenan oedd ddeng mlynedd a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.

15 A Mahalaleel a fu fyw bum mlynedd a thrigain mlynedd, ac a genhedlodd Jered. 16 A Mahalaleel a fu fyw wedi iddo genhedlu Jered, ddeng mlynedd ar hugain ac wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 17 A holl ddyddiau Mahalaleel oedd bymtheng mlynedd a phedwar ugain ac wyth gan mlynedd; ac efe a fu farw.

18 A Jered a fu fyw ddwy flynedd a thrigain a chan mlynedd, ac a genhedlodd Enoch. 19 A Jered a fu fyw wedi iddo genhedlu Enoch wyth gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 20 A holl ddyddiau Jered oedd ddwy flynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.

21 Enoch hefyd a fu fyw bum mlynedd a thrigain, ac a genhedlodd Methwsela. 22 Ac Enoch a rodiodd gyda Duw wedi iddo genhedlu Methwsela, dri chant o flynyddoedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 23 A holl ddyddiau Enoch oedd bum mlynedd a thrigain a thri chant o flynyddoedd. 24 A rhodiodd Enoch gyda Duw, ac ni welwyd ef; canys Duw a’i cymerodd ef.

25 Methwsela hefyd a fu fyw saith mlynedd a phedwar ugain a chant, ac a genhedlodd Lamech. 26 A Methwsela a fu fyw wedi iddo genhedlu Lamech, ddwy flynedd a phedwar ugain a saith gan mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 27 A holl ddyddiau Methwsela oedd naw mlynedd a thrigain a naw can mlynedd; ac efe a fu farw.

28 Lamech hefyd a fu fyw ddwy flynedd a phedwar ugain a chan mlynedd, ac a genhedlodd fab; 29 Ac a alwodd ei enw ef Noa, gan ddywedyd, Hwn a’n cysura ni am ein gwaith, a llafur ein dwylo, oherwydd y ddaear yr hon a felltigodd yr Arglwydd. 30 A Lamech a fu fyw wedi iddo genhedlu Noa, bymtheng mlynedd a phedwar ugain a phum can mlynedd, ac a genhedlodd feibion a merched. 31 A holl ddyddiau Lamech oedd ddwy flynedd ar bymtheg a thrigain a saith gan mlynedd; ac efe a fu farw. 32 A Noa ydoedd fab pum can mlwydd; a Noa a genhedlodd Sem, Cham, a Jaffeth.

Descendientes de Adán

Este es el libro de las generaciones de Adán. El día que Dios creó al hombre, a semejanza de Dios lo hizo(A). Varón y hembra los creó(B). Los bendijo(C), y los llamó Adán[a] el día en que fueron creados. Cuando Adán había vivido 130 años, engendró un hijo a su semejanza, conforme a su imagen, y le puso por nombre Set. Y los días de Adán después de haber engendrado a Set fueron 800 años, y tuvo otros hijos e hijas. El total de los días que Adán vivió fue de 930 años, y murió.

Set vivió 105 años, y fue padre de Enós. Y vivió Set 807 años después de haber engendrado a Enós, y tuvo otros hijos e hijas. El total de los días de Set fue de 912 años, y murió.

Enós vivió 90 años, y fue padre de Cainán. 10 Y vivió Enós 815 años después de haber engendrado a Cainán, y tuvo otros hijos e hijas. 11 El total de los días de Enós fue de 905 años, y murió.

12 Cainán vivió 70 años, y fue padre de Mahalaleel. 13 Y vivió Cainán 840 años después de haber engendrado a Mahalaleel, y tuvo otros hijos e hijas. 14 El total de los días de Cainán fue de 910 años, y murió.

15 Mahalaleel vivió 65 años, y fue padre de Jared. 16 Y vivió Mahalaleel 830 años después de haber engendrado a Jared, y tuvo otros hijos e hijas. 17 El total de los días de Mahalaleel fue de 895 años, y murió.

18 Jared vivió 162 años, y fue padre de Enoc. 19 Y vivió Jared 800 años después de haber engendrado a Enoc, y tuvo otros hijos e hijas. 20 El total de los días de Jared fue de 962 años, y murió.

21 Enoc vivió 65 años, y fue padre de Matusalén. 22 Enoc anduvo con Dios(D) 300 años después de haber engendrado a Matusalén, y tuvo otros hijos e hijas. 23 El total de los días de Enoc fue de 365 años. 24 Y Enoc anduvo con Dios(E), y desapareció[b] porque Dios se lo llevó(F).

25 Matusalén vivió 187 años, y fue padre de Lamec. 26 Y vivió Matusalén 782 años después de haber engendrado a Lamec, y tuvo otros hijos e hijas. 27 El total de los días de Matusalén fue de 969 años, y murió.

28 Lamec vivió 182 años, y tuvo un hijo. 29 Y le puso por nombre Noé[c], diciendo: «Este nos dará descanso de[d] nuestra labor y del trabajo de nuestras manos, por causa de la tierra que el Señor ha maldecido(G)». 30 Y vivió Lamec 595 años después de haber engendrado a Noé, y tuvo otros hijos e hijas. 31 El total de los días de Lamec fue de 777 años, y murió.

32 Noé tenía 500 años(H), y[e] fue padre de Sem, de Cam y de Jafet.

Footnotes

  1. 5:2 U hombre.
  2. 5:24 Lit. no fue más.
  3. 5:29 I.e. consuelo, o, descanso.
  4. 5:29 Lit. nos consolará en.
  5. 5:32 Lit. y Noé.