Add parallel Print Page Options

25 Ac Abraham a gymerodd eilwaith wraig, a’i henw Cetura. A hi a esgorodd iddo ef Simran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua. A Jocsan a genhedlodd Seba, a Dedan: a meibion Dedan oedd Assurim, a Letusim, a Lewmmim. A meibion Midian oedd Effa, ac Effer, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaa: yr holl rai hyn oedd feibion Cetura.

Ac Abraham a roddodd yr hyn oll oedd ganddo i Isaac. Ac i feibion gordderchwragedd Abraham y rhoddodd Abraham roddion; ac efe a’u hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fab, tua’r dwyrain, i dir y dwyrain, ac efe eto yn fyw. A dyma ddyddiau blynyddoedd einioes Abraham, y rhai y bu efe fyw; can mlynedd a phymtheng mlynedd a thrigain. Ac Abraham a drengodd, ac a fu farw mewn oed teg, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau; ac efe a gasglwyd at ei bobl. Ac Isaac ac Ismael ei feibion a’i claddasant ef yn ogof Machpela, ym maes Effron fab Sohar yr Hethiad, yr hwn sydd o flaen Mamre; 10 Y maes a brynasai Abraham gan feibion Heth; yno y claddwyd Abraham, a Sara ei wraig.

11 Ac wedi marw Abraham, bu hefyd i Dduw fendithio Isaac ei fab ef: ac Isaac a drigodd wrth ffynnon Lahai‐roi.

12 A dyma genedlaethau Ismael, fab Abraham, yr hwn a ymddûg Agar yr Eifftes, morwyn Sara, i Abraham. 13 A dyma enwau meibion Ismael, erbyn eu henwau, trwy eu cenedlaethau: Nebaioth cyntaf‐anedig Ismael, a Chedar, ac Adbeel, a Mibsam, 14 Misma hefyd, a Duma, a Massa, 15 Hadar, a Thema, Jetur, Naffis, a Chedema. 16 Dyma hwy meibion Ismael, a dyma eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestyll; yn ddeuddeg o dywysogion yn ôl eu cenhedloedd. 17 A dyma flynyddoedd einioes Ismael; can mlynedd a dwy ar bymtheg ar hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casglwyd ef at ei bobl. 18 Preswyliasant hefyd o Hafila hyd Sur, yr hon sydd o flaen yr Aifft, ffordd yr ei di i Asyria: ac yng ngŵydd ei holl frodyr y bu efe farw.

19 A dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: Abraham a genhedlodd Isaac. 20 Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd pan gymerodd efe Rebeca ferch Bethuel y Syriad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad, yn wraig iddo. 21 Ac Isaac a weddïodd ar yr Arglwydd dros ei wraig, am ei bod hi yn amhlantadwy; a’r Arglwydd a wrandawodd arno ef, a Rebeca ei wraig ef a feichiogodd. 22 A’r plant a ymwthiasant â’i gilydd yn ei chroth hi: yna y dywedodd hi, Os felly, beth a wnaf fi fel hyn? A hi a aeth i ymofyn â’r Arglwydd. 23 A’r Arglwydd a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl sydd yn dy groth di, a dau fath ar bobl a wahenir o’th fru di; a’r naill bobl fydd cryfach na’r llall, a’r hynaf a wasanaetha’r ieuangaf.

24 A phan gyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor, wele, gefeilliaid oedd yn ei chroth hi. 25 A’r cyntaf a ddaeth allan yn goch drosto i gyd fel cochl flewog: a galwasant ei enw ef Esau. 26 Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, a’i law yn ymaflyd yn sawdl Esau: a galwyd ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab trigain mlwydd pan anwyd hwynt. 27 A’r llanciau a gynyddasant: ac Esau oedd ŵr yn medru hela, a gŵr o’r maes; a Jacob oedd ŵr disyml, yn cyfanheddu mewn pebyll. 28 Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau, am ei fod yn bwyta o’i helwriaeth ef: a Rebeca a hoffai Jacob.

29 A Jacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o’r maes, ac efe yn ddiffygiol. 30 A dywedodd Esau wrth Jacob, Gad i mi yfed, atolwg, o’r cawl coch yma; oherwydd diffygiol wyf fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom. 31 A dywedodd Jacob, Gwerth di heddiw i mi dy enedigaeth‐fraint. 32 A dywedodd Esau, Wele fi yn myned i farw, a pha les a wna’r enedigaeth‐fraint hon i mi? 33 A dywedodd Jacob, Twng i mi heddiw. Ac efe a dyngodd iddo; ac efe a werthodd ei enedigaeth‐fraint i Jacob. 34 A Jacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys; ac efe a fwytaodd, ac a yfodd, ac a gododd, ac a aeth ymaith: felly y diystyrodd Esau ei enedigaeth‐fraint.