Genesis 25:1-6
Beibl William Morgan
25 Ac Abraham a gymerodd eilwaith wraig, a’i henw Cetura. 2 A hi a esgorodd iddo ef Simran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua. 3 A Jocsan a genhedlodd Seba, a Dedan: a meibion Dedan oedd Assurim, a Letusim, a Lewmmim. 4 A meibion Midian oedd Effa, ac Effer, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaa: yr holl rai hyn oedd feibion Cetura.
5 Ac Abraham a roddodd yr hyn oll oedd ganddo i Isaac. 6 Ac i feibion gordderchwragedd Abraham y rhoddodd Abraham roddion; ac efe a’u hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fab, tua’r dwyrain, i dir y dwyrain, ac efe eto yn fyw.
Read full chapter
1 Cronicl 1:32-33
Beibl William Morgan
32 A meibion Cetura, gordderchwraig Abraham: hi a ymddûg Simran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua. A meibion Jocsan; Seba, a Dedan. 33 A meibion Midian; Effa, ac Effer, a Henoch, ac Abida, ac Eldaa: y rhai hyn oll oedd feibion Cetura.
Read full chapterWilliam Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.