Add parallel Print Page Options

Ac Adda a adnabu Efa ei wraig: a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Cain; ac a ddywedodd, Cefais ŵr gan yr Arglwydd. A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef Abel; ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio’r ddaear. A bu, wedi talm o ddyddiau, i Cain ddwyn o ffrwyth y ddaear offrwm i’r Arglwydd. Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid, ac o’u braster hwynt. A’r Arglwydd a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm: Ond nid edrychodd efe ar Cain, nac ar ei offrwm ef. A dicllonodd Cain yn ddirfawr, fel y syrthiodd ei wynepryd ef. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain, Paham y llidiaist? a phaham y syrthiodd dy wynepryd? Os da y gwnei, oni chei oruchafiaeth? ac oni wnei yn dda, pechod a orwedd wrth y drws: atat ti hefyd y mae ei ddymuniad ef, a thi a lywodraethi arno ef. A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd: ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac a’i lladdodd ef.

A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain, Mae Abel dy frawd di? Yntau a ddywedodd, Nis gwn; ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi? 10 A dywedodd Duw, Beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd yn gweiddi arnaf fi o’r ddaear. 11 Ac yr awr hon melltigedig wyt ti o’r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o’th law di. 12 Pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear. 13 Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd, Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddau. 14 Wele, gyrraist fi heddiw oddi ar wyneb y ddaear, ac o’th ŵydd di y’m cuddir: gwibiad hefyd a chrwydriad fyddaf ar y ddaear; a phwy bynnag a’m caffo a’m lladd. 15 A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Am hynny y dielir yn saith ddyblyg ar bwy bynnag a laddo Cain. A’r Arglwydd a osododd nod ar Cain, rhag i neb a’i caffai ei ladd ef.

16 A Chain a aeth allan o ŵydd yr Arglwydd, ac a drigodd yn nhir Nod, o’r tu dwyrain i Eden. 17 Cain hefyd a adnabu ei wraig; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Enoch: yna yr ydoedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd enw y ddinas yn ôl enw ei fab, Enoch. 18 Ac i Enoch y ganwyd Irad: ac Irad a genhedlodd Mehwiael, a Mehwiael a genhedlodd Methwsael, a Methwsael a genhedlodd Lamech.

19 A Lamech a gymerodd iddo ddwy o wragedd: enw y gyntaf oedd Ada, ac enw yr ail Sila. 20 Ac Ada a esgorodd ar Jabal; hwn ydoedd dad pob preswylydd pabell, a pherchen anifail. 21 Ac enw ei frawd ef oedd Jwbal; ac efe oedd dad pob teimlydd telyn ac organ. 22 Sila hithau a esgorodd ar Tubal‐Cain, gweithydd pob cywreinwaith pres a haearn: a chwaer Tubal‐Cain ydoedd Naama. 23 A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd, Ada a Sila, Clywch fy llais, gwragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd; canys mi a leddais ŵr i’m harcholl, a llanc i’m clais. 24 Os Cain a ddielir seithwaith, yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith.

25 Ac Adda a adnabu ei wraig drachefn; a hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Seth: Oherwydd Duw (eb hi) a osododd i mi had arall yn lle Abel, am ladd o Cain ef. 26 I’r Seth hwn hefyd y ganwyd mab; ac efe a alwodd ei enw ef Enos: yna y dechreuwyd galw ar enw yr Arglwydd.