Add parallel Print Page Options

22 Canys y mae’n ysgrifenedig, fod i Abraham ddau fab; un o’r wasanaethferch, ac un o’r wraig rydd. 23 Eithr yr hwn oedd o’r wasanaethferch, a aned yn ôl y cnawd; a’r hwn oedd o’r wraig rydd, trwy’r addewid. 24 Yr hyn bethau ydynt mewn alegori: canys y rhai hyn yw’r ddau destament; un yn ddiau o fynydd Seina, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Agar:

Read full chapter

26 Eithr y Jerwsalem honno uchod sydd rydd, yr hon yw ein mam ni oll.

Read full chapter

30 Ond beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd? Bwrw allan y wasanaethferch a’i mab: canys ni chaiff mab y wasanaethferch etifeddu gyda mab y wraig rydd. 31 Felly, frodyr, nid plant i’r wasanaethferch ydym, ond i’r wraig rydd.

Read full chapter